Rhoed pob creadur glod yn rhwydd,
I'r Arglwydd hollalluog;
Cans dyma Nêr o'r dim a wnaeth
Y greadigaeth wyrthiog.
Trwy rym ei ddwyfol sanctaidd air,
Gwnaeth ddisglair gyrff yr wybren
Yn balmant i'w ogoniant gwych,
A'u llewych yn ffurfafen.
Trwy rym
ei law alluog gref,
Gorchfygu ef bob gelyn,
Arswyded dynion o bob gradd
Rhag ymladd yn ei erbyn.
Nid ydyw gallu mwyaf dyn
Ond defnyn a ddyferodd,
Pob gallu yn, ac is y nef,
O hono ef y tarddodd.
Dŵr, tân a gwynt, ar air yn bur,
Sy'n gwneuthur ei orchymyn;
Fe gymer yr ynysoedd lu
I fyny fel brycheuyn.
Ys ei drag'wyddol fraich aeth dan
Greadur gwan llygredig,
O'r dŵr o lygredd
daw i'r lan,
Yn llaw yr Anffaeledig.
Ymddengys dwyfol allu'r Tad
Yn yr holl greadigaeth;
Ond gwelir mwy o'i allu maith
Yn ngwaith yr iachawdwriaeth.
Yr haul a'r ser ynt waith di len
Ei fysedd bendigedig;
Rhagorol fawredd
nerth Tri'n Un
Fu'n codi dyn trangcedig.
Ei gadarn fraich dynoethi wnaeth,
Er dwyn y caeth i ryddid;
Wrth drefn ei arfaeth, gan gwblhau
Amodau ei addewid.
Yr Hollalluog hwn yn hyf
A rwymodd y cryf arfog,
Fe lwyr yspelia'i ddodrefn ef,
Lle gwna ei gartref enwog.
Duw, dod i'n brawf
o'th allu mawr,
Yn awr drwy iachawdwriaeth;
Rhag i'n anabod dy law gref,
Drwy ddyoddef damnedigaeth.
Ond byth ni all creadur byw,
O! Dduw anolrheiniadwy,
Fynegi'n glir ddigonol glod
I'th Dduwdod annhraethadwy.
Dafydd Owen (Dewi Wyn o Eifion) 1784-1841
[Mesur: MS 8787] |
Let every creature render praise freely,
To the almighty Sovereign;
Since behold the Lord from nothing has made
The marvellous creation.
Through the force of his holy word,
He made the shining bodies of the sky
As a pavement for his brilliant glory,
And their radiance as a firmament.
Through the force
of his mighty, strong hand,
He overcame every enemy,
Let men of every degree be in terror
Of fighting against him.
The greatest might of man is
Only a droplet which dripped,
Every ability in, and under, heaven,
From him has issued.
Water, fire and wind, on the word purely,
Of him who makes his command;
He takes the host of islands
Up like a speck.
It is his eternal arm that went under
A weak, corrupt creature,
From the water of corruption
he will come up,
In the hand of the Unfailing One.
He will show the divine power of the Father
In the whole creation;
But more of his vast power is to be seen
In the work of salvation.
The sun and the stars are the unveiled work
Of his blessed fingers;
The excellent majesty
of the strength of Three in One
Was raising mortal man.
His firm arm he made bare,
To bring the captive to freedom;
By the plan of his purpose, by fulfilling
The terms of his promise.
The Almighty, he boldly
Has bound the strong armed one,
He completely spoils his furniture,
Where he makes his famous home.
God, may an experience come to us
of thy great power,
Now through salvation;
Lest we be ignorant of thy strong hand,
Through suffering condemnation.
But never can a living creature,
O untraceable God,
Express clearly sufficient praise
To thy inexpressible Divinity.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|