Rhagflaenor y Mesïa mawr
A ddaeth fel seren bore wawr,
A'i llewyrch disglair dros y tir
Yn arwydd o'r Goleuni gwir.
Ni chaed ymhlith holl ddynol-ryw
Neb mwy nag Ioan, proffwyd Duw;
Daeth i gyhoeddi
teyrnas nef,
A'r wlad a glybu'i uchel lef.
Llawn ydoedd ef o'r Ysbryd Glân,
A'i galon ddewr yn llosgi'n dân;
Fe ddaeth yn nerth Elïas gynt,
Yn ferthyr gwrol, ar ei hynt.
Fe lefai yn yr anial maith
 barnedigaeth yn ei iaith;
A galwai'r genadwri fyw:
"Yn wir nesaodd teyrnas Dduw."
Y dyrfa, ar ei air a'i gri,
A ddaeth i'w fedydd yn y lli;
Yr Iesu glân ddaeth gyda hwy,
A sanctaidd ydyw'r bedydd mwy.
O Iesu, Brenin mawr y byd,
I ti rhown foliant oll ynghyd;
I'r Tad a'r Ysbryd gydag ef
Dyrchafwn fythol lawen lef.
David Lewis (Ap Ceredigion) 1870-1948
Tôn [MH 8888]: Winchester New |
The forerunner of the great Messiah
Came like a star of the morning dawn,
And his shining radiance over the land
As a sign of the true Light.
Not to be found among all human-kind
Is anyone greater than John, God's prophet;
He came to announce
the kingdom of heaven,
And the land heard his loud cry.
Full he was of the Holy Spirit,
And his brave heart a burning fire;
He came in the strength of former Elijah,
As a brave martyr, on his course.
He cried out in the vast desert
With judgment in his language;
And he called the living message:
"Truly the kingdom of God has come near."
The crowd, at his word and his cry,
Came to be baptised in the flood;
The holy Jesus came with them,
And sacred is the baptism evermore.
O Jesus, great King of the world,
To thee we all render praise altogether;
To the Father and the Spirit with him
We raise an everlasting, joyful cry.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|