'Ry'm ninnau gyd trwy'r byd
heb ball,
Hawdd deall, yn ngŵydd Duw;
I gyd yn symud dan y rhod,
Yn bod, ac ynddo'n byw;
Fe edwyn galon dyn heb goll,
A'i fwriad oll, oferedd yw,
Mae'r chwant yn weithred cyn ei gwneyd,
Hawdd dweyd, yn nghyfrif Duw.
Edward Jones 1761-1836
[Mesur: MCD 8686D] gwelir: 'Does neb trwy'r nefoedd hawddgar heb Mae'n llond y nefoedd llond y byd |
We are all throughout the world
without exception,
Easy to understand, in the sight of God;
All moving under the sky,
Being, and in him living;
He knows the heart of man without fail,
And all his intention, vain it is,
The desire as a deed before it is done,
Easy to tell, in the account of God.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|