'Rwyt ti o hyd ein Harglwydd mwyn
'Rwyt ti o hyd fy Arglwydd mwyn

(Cwyn y gwan)
'Rwyt ti o hyd ein Harglwydd mwyn
  Yn gwrando cŵyn y gwan;
Clyw, clyw ruddfanau'r gwana 'riod,
  Sy'n chwenych dod i'r lān.

Terfysglyd yw fy enaid gwan,
  'Rwy'n ofni angeu loes;
O Iesu, dāl fi, dāl fi i'r lān,
  Rho gymorth dan y groes.

O! trugarhâ, fy Iesu cu,
  Wrth enaid sy' mewn braw;
Nis gallaf symud cam yn mlaen
  Heb help dy gadarn law.

Pan ballo nerth fy nghalon wan,
  A darfod cymorth dyn,
O! Arglwydd Iesu, derbyn fi
  I'th fynwes Di Dy hun.
ein Harglwydd mwyn :: fy Arglwydd mwyn!
Clyw, clyw ruddfanau :: O clyw riddfanau

1-3: William Lewis ?-1794
4 : Thomas William(s) 1761-1844

Tonau [MC 8686]:
Achub ein Gwlad (David Richards)
Burford (Salmydd Chetham 1718)
Canton (Lowell Mason 1792-1872)
Westminster (James Turle 1802-82)
Windsor (Sallwyr Damon 1591)

gwelir: Pan ballo nerth fy nghalon wan

(The complaint of the weak)
Thou art always our dear Lord
  Listening to the complaint of the weak;
Hear, hear the groans of the weakest ever,
  Who is longing to come up.

Tempestuous is my weak soul,
  I am fearing the throes of death;
O Jesus, hold me, hold me up,
  Give assistance under the cross.

Oh, have mercy, my dear Jesus,
  On a soul who is in terror;
I cannot move a step forwards
  Without the help of thy firm hand.

When fades the strength of my weak heart,
  And the help of man passes away,
O Lord Jesus, receive me
  To Thy own breast.
our dear Lord :: my dear Lord!
Hear, hear the groans :: O hear the groans

tr. 2015,16 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~