'Rwy'n tynnu tuag ochor y dŵr,
Bron gadael yr anial yn lân;
Mi glywais am goncwest y Gŵr
A yfodd yr afon o'm blaen;
Fe dreiglodd y maen oedd dan sêl,
Fe gododd y Cadarn i'r lan;
Fe'i caraf ef, deued a ddêl,
Mae gobaith i'r
truan a'r gwan.
Mi garaf f'Anwylyd o hyd,
Fy Mhrynwr, fy Mhriod, a'm Pen,
O'r diwedd fe sugnodd fy mryd
O'r ddaear i'r nefoedd uwch ben;
Gwyn fyd pe gorweddwn yn awr
Yn llonydd yn ngwaelod fy medd,
Mi godwn ar doriad y wawr
Yn fuan i weled ei wedd.
'Rwy'n teimlo gwir hiraeth bob dydd
Am ddatod fy mhabell o'i lle,
A myn'd, fel aderyn, yn rhydd,
Yn union i ganol y ne';
Ac esgyn mewn yno i blith
Y dorf sydd a'u gwisgoedd yn wyn,
A chanu i'm Harglwydd i byth
Fu farw ar Galfari fryn.
1: John Williams (Ioan ab Gwilym) 1728-1806neu | or Thomas William 1761-1844 2: William Williams 1717-91 3: Hymnau ... yr Eglwys (Daniel Evans) 1883
Tonau [88.88.D]: gwelir: Adenydd colomen pe cawn Wrth gofio'r Jerusalem fry |
I am drawing towards the waterside,
Almost leaving the desert completely;
I heard about the conquest of the Man
Who drank the river before me;
He rolled the stone that was sealed,
The Strong One lifted up;
I will love him, come what may,
There is hope for the
wretched and the weak.
I will love my Beloved always,
My Redeemer, my Spouse, and my Head,
In the end he attracted my attention
From the earth to heaven above;
Blessed if I lay now
Cheerfully in the bottom of my grave,
I would rise at the break of the dawn
Soon to see his countenance.
I am feeling true longing every day
To dismantle my tent from its place,
And go, like a bird, free,
Directly to the centre of heaven;
And ascend into there amidst
The throng that have white garments,
And are singing to my Lord forever
Who died on Calvary hill.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|