Rwy'n gorwedd yn y carchar du,
A'm henaid cu'n och'neidio;
A'r gadwyn fawr yn gwasgu'n dyn,
Heb neb a'm tyn o hono.
Fy meiau megys gwlith y wawr -
Anfeidrol fawr eu cyfri -
Sy'n pwyso'n galed ar fy mron,
A minau bron llewygu.
Och'neidio'r wyf am ddod yn rhydd,
A gweled dydd gollyngdod:
I rodio bryniau sanctaidd, pur,
Nefolaidd dir fy Mhrïod.
Ti, Iesu mawr, dy allu pur,
All dori'r dur caleta':
Tor fy nghadwynau oll heb ludd,
A dwg fi'n rhydd oddi yma.
- - - - -
Rwy'n gorwedd yn y carchar du,
A'm henaid cu'n och'neidio,
A'r gadwyn fawr yn gwasgu'n dynn,
Heb neb a'm tynn o hono.
Fy meiau megys gwlith y wawr,
Anfeidrol fawr eu cyfri,
Sy'n pwyso'n galed ar fy mron,
A minnau bron llewygu.
Ochneidio rwyf am ddod yn rhydd,
A gweled dydd gollyngdod;
I rodio bryniau sanctaidd, pur,
Nefolaidd dir fy Mhriod.
Ti, Iesu mawr, y Meddyg pur,
Sy'n dori'r dur caletta':
Torr fy nghadwynau mawr a'th ras,
Fel delwyf ma's oddi yma.
Mae'r gallu yn gyfan y dy law,
Fel dwdych daw'r canlyniad,
Ac nid yw'n orchest it' fy Nuw,
I roi fy ngwiw ddymuniad.
William Williams 1717-91Mor o Wydr 1762/1773 [Mesur: MS 8787] |
I am lying in the black prison,
And my dear soul groaning;
And the great chain squeezing tightly,
With no-one to pull me out of it.
My faults like the dew of the dawn -
Infinitely great their count -
Are pressing hard upon my breast,
While I am almost fainting.
Groaning I am to come free,
And see the day of release;
To walk the pure, sacred hill,
Of the heavenly land of my Spouse.
'Tis thou, great Jesus, thy pure power,
That can break the hardest steel:
Break all my chains without fail,
And set me free from here.
- - - - -
I am lying in the black prison,
And my dear soul groaning,
And the great chain squeezing tightly,
With no-one to pull me out of it.
My faults like the dew of the dawn,
Infinitely great their counting,
Are pressing hard upon my breast,
While I am almost fainting.
Groaning I am to come free,
And see the day of release;
To walk the pure, sacred hill,
Of the heavenly land of my Spouse.
'Tis thou, great Jesus, the pure Physician,
That is breaking the hardest steel;
Break my greata chains with thy grace,
That I may come out of here.
The power is wholly in thy hand,
As thou speakest the consequence comes
And it is not a struggle for thee my God,
To grant my worthy request.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|