Rhowch, medd yr afon fach,
Rhowch, O rhowch, Rhowch, O rhowch;
Rhowch, medd yr afon bach,
Sydd yn treiglo i lawr o'r bryn;
Bechan wyf, mi wn,
Ond b'le bynnag yr af,
Rhowch, O rhowch; Rhowch, O rhowch;
Bechan wyf, mi wn,
Ond b'le bynnag yr af,
'Rydwy'n rhoi o hyd er hyn.
Canu'r wyf ar hyd y dydd,
Rhowch, O Rhowch; Rhowch, O rhowch;
Canu'r wyf ar hyd y dydd,
Rhowch, O Rhowch yn rhydd.
Rhowch, medd y gwlith-wlaw mân,
Rhowch, O rhowch; Rhowch, O rhowch;
Rhowch, medd y gwlith-wlaw mân,
Sydd o'r ne'n ymlwbro i lawr,
Er nad wyf ond mân,
Rhoddaf fywyd a maeth,
Rhowch, O rhowch; Rhowch, O rhowch;
Er nad wyf ond mân,
Rhoddaf fywyd a maeth,
I ryw dorf anfeidrol fawr.
Canu'r wyf ...
Rhowch, rhoch i'r Iesu mwyn,
Rhowch, O rhowch; Rhowch, O rhowch;
Rhowch, rhoch i'r Iesu mwyn,
Rhowch yn debyg iddo fe;
Yn ei gariad daeth
O'r nefoedd i lawr,
Rhowch, O rhowch; Rhowch, O rhowch;
Yn ei gariad daeth
O'r nefoedd i lawr,
Rhoes ei hunan yn ein lle.
Canu'r wyf ...
Rhowch fel yr afon fach,
Rhowch, O rhowch, Rhowch, O rhowch;
Rhowch fel yr afon fach,
Fel y gwlith i bob peth byw,
Fel y tir a'r môr -
Fel y ddaear a'r nef,
Rhowch, O Rhowch; Rhowch, O rhowch;
Fel y tir a'r môr -
Fel y ddaear a'r nef,
Ond y mawr am roi yw Duw.
Canu'r wyf ar hyd y dydd,
Rhowch, O rhowch; Rhowch, O rhowch;
Canu'r wyf ar hyd y dydd,
Rhowch, O Rhowch yn rhydd.
Canu wnaf ar hyd y dydd,
Rhowch, O rhowch, Rhowch, O rhowch;
Rhof i'r Iesu, rhof yn rhydd,
Rhof i'r Iesu'n rhydd.
John Roberts (Ieuan Gwyllt) 1822-77
Tôn: Rhowch O Rhowch (alaw Americanaidd) |
Give ye, says the little river,
Give, O give; Give, O give;
Give ye, says the little river,
That is trickling down from the rock;
Small I am, I know,
But wherever I go,
Give, O give; Give, O give;
Small I am, I know,
But wherever I go,
I am giving always despite this.
Singing I am all day long,
Give, O give; Give, O give;
Singing I am all day long,
Give, O give ye freely.
Give ye, says the fine drizzle,
Give, O give; Give, O give;
Give ye, says the fine dew,
That from the sky is wandering down,
Although I am only small,
I will give life and nourishment,
Give, O give; Give, O give;
Although I am only small,
I will give life and nourishment,
To some immeasurable, great throng.
Singing I am ...
Give ye, give to dear Jesus,
Give, O give; Give, O give;
Give ye, give to dear Jesus,
Gove ye similarly to him;
In his love he came
Down from heaven,
Give, O give; Give, O give;
In his love he came
Down from heaven,
He gave himself in our place.
Singing I am ...
Give ye like the little river,
Give, O give; Give, O give;
Give ye like the little river,
Like the dew to everything living,
Like the land and the sea -
Like the earth and heaven,
Give, O give; Give, O give;
Like the land and the sea -
Like the earth and heaven,
But a great one for giving is God.
Singing I am all day long,
Give, O give; Give, O give;
Singing I am all day long,
Give, O give ye freely.
Singing I am all day long,
Give, O give; Give, O give;
I shall give to Jesus, I shall give freely,
I shall give to Jesus freely.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|