'R wy 'mhell, fy nefol Dad,
Oddi wrth dy borth yn byw,
'R wy'n ofni colli'r ffordd
Cyn cyrraedd dinas Duw:
O! estyn dy ddeheulaw gref
I'm dwyn yn nes at borth y nef.
Fy nghalon sydd yn ddrwg -
Pwy edwyn lygredd hon?
Meddyliau ofer sydd
Yn llechu dan fy mron;
O! Ysbryd Sanctaidd, clyw fy llef,
Cymhwysa 'nghalon ddrwg i'r nef.
T Talwyn Phillips 1856-1918
Tôn [666688] Gwladys (William Tans'ur 1806-83) |
I am far, my heavenly Father,
Away from thy gate living,
I am fearing losing the way
Before reaching the city of God:
O stretch out thy strong right hand
To bring me nearer to the gate of heaven.
My heart is evil -
Who knows this corruption?
Vain thoughts are
Lurking under my breast;
O Holy Spirit, hear my cry,
Adapt my evil heart for heaven.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|