Pererin wyf sydd ar fy nhaith,
I fyd o dragwyddoldeb maith;
Trwy'r anial mawr mi af ymla'n
Ar ol fy mhriod, Iesu glān.
'Does yma ddim sydd yn y byd,
Un awr yn deilwyng o fy mryd;
Mae cariad Iesu'n llawer gwell,
Na holl drysorau'r India bell.
Nid oes na da, na dyn, na dawn,
All roddi imi heddwch llawn;
Ond haeddiant Crist,
a'i ddwyfol loes,
Rhydd gysur cryf
o dan bob croes.
Ar fyr o dro caf
dirio draw,
Uwch cyraedd angau,
brenin braw;
Mi fydda'n bur, heb gur na phoen,
Y'ngwm'ni'r croeshoeliedig Oen.
Caniadau Bethel (Casgliad Evan Edwards) 1840
[Mesur: MH 8888] |
I pilgrim am I, who am on my journey,
To a world of vast eternity;
Through the great desert I go onwards
After my spouse, holy Jesus.
There is nothing here that is in the world,
For one hour worthy of my attention;
The love of Jesus is much better,
Than all the treasures of far India.
There is no good, nor man, nor gift,
That can give me full peace;
But the merit of Christ,
and his divine anguish,
That gives strong comfort
under every cross.
In a little while I shall
get to land there,
Beyond the reach of death,
the king of terror;
I shall be pure, without ache or pain,
In the company of the crucified Lamb.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|