Pererin wyf mewn anial le

(Pererin ar ei daith)
Pererin wyf mewn anial le,
Sy'n ceisio teithio tua thre;
  Mae'r nos yn hir, a minau'n byw,
  Yn fynych iawn heb gwm'ni'm Duw.

Mae'r ffordd yn faith, a'r wlad y'mhell,
Lle mae fy etifeddiaeth well;
  A minnau'n wan o dan fy maich,
  O dal fi'r lan a'th gadarn fraich.

Gelynion lu sydd ar bob llaw,
A'm calon lesg yn llawn o fraw:
  O Dduw rho nerth yn ol y dydd,
  Nes d'odd o'm rhwymau oll yn rhydd.

'Rwyf weithiau'n gwel'd fel un o bell,
Hyfrydol gaerau'r ddinas well;
  Lle mae fy ngwir anwylaf frawd,
  A chyfaill tlws fy enaid tlawd.
Caniadau Bethel (Casgliad Evan Edwards) 1840

[Mesur: MH 8888]

(A pilgrim on his journey)
I am a pilgrim in a desert place,
Who is seeking to travel towards home;
  The night is long, and I am living,
  Very often without God's company.

The road is long, and the land distant,
Where my better inheritance is;
  And I am weak under my burden,
  O hold me up with thy firm arm.

A host of enemies are on every hand,
And my feeble heart is full of terror:
  O God give strength according to the day,
  Until coming from my bonds all free.

I am sometimes seeing like one afar,
The delightful fortresses of a better city;
  Where my true, dearest brother is,
  And the treasured friend of my poor soul.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~