|
1,2,3,4,5,6; 1,2,3,(5,6).
Pechadur wyf erio'd
O halogedig ryw;
Gwrth'nebwr fynnai fod
Yn erbyn gras fy Nuw:
O maddeu'n rhad fy meiau 'nawr,
Ar gyfrif gwa'd
f'Anwylyd gwiw.
Mae rhwystrau o fy mla'n
I'r etifeddiaeth rad;
Mae dyfroedd mawr a thân
Oddiyma i dŷ fy Nhad:
O Arglwydd, gwel fi'n llesg a gwan,
A dwg fi'r lan i'r nefol wlad.
Fe ŵyr, f'Anwylyd cu,
Fod llu o elynion im';
Y rhai yn gyfrwys sy,
A chedyrn iawn o rym:
Rho ras i mi anturio'n hŷ
Trwy ganol llu
'ngelynion llym.
Palmenta'r llwybr cu,
Sy'n mynd tua thŷ fy Nhad,
Na's gallo'r ddraig a'i sgil,
'Y syflyd dim o'm traed;
O dwg fi 'mlaen tros fryniau pell,
I'r ddinas gwell bwrcasodd gwaed.
'Rwy'n gorwedd dan fy mhwn,
Fy nghalon fach sydd friw;
Fe'm llethir i gan hwn,
O, help, f'Anwylyd gwiw:
O tyr'd yn glau, dwg fi i'r làn,
I'r hyfryd fan
mae'r saint yn byw.
Pob llif, a ffrwd, a tḥn,
Pob gwawd ac erlid llym,
Hwy aethant tros fy mron,
Mi adwaen eitha' eu grym;
Tros ronyn bach dysgwyl a wna',
Mi wn daw gwaredigaeth im'.
- - - - -
Pechadur wyf erioed
O halogedig ryw;
Pechadur fynai fod
Yn erbyn gras fy Nuw:
O maddeu'n rhad fy meiau 'nawr,
Ar gyfrif gwaed yr Iesu mawr.
Troseddwr wyf, O Dduw,
Da iawn y gwyddost hyn:
Annheilwng iawn i fyw
Tu yma i uffern lyn;
O dan ei faich mae f'enaid gwan,
Estyn dy fraich a dwg fi i'r lan.
Rhif fy mhechodau sydd
Fel y mân wlith brydnawn;
A rhei'ny oll bob dydd
O liwiau duon iawn;
Ond afon lifodd ar y bryn
A all fy ngolchi oll yn wyn.
William Williams 1717-91
Tonau [666688]: |
I sinner I have ever been
Of a defiled sort;
A rebel I insist on being
Against my God's grace:
O forgive freely my sins now,
On account of the blood
of my worthy Beloved.
There are obstacles before me
To the free inheritance;
There are great waters and fire
From here to my Father's house:
O Lord, see me feeble and weak,
And lead me up to the heavenly land.
I know, my dear Beloved,
That I have a host of enemies;
Those who are crafty,
And very firm of force:
Give grace for me to venture boldly
Through the middle of a host
of my sharp enemies.
Pave the dear path,
That goes towards my Father's house,
That the dragon and his skill, be unable
To shift me from my feet.
O lead me on over distant hills,
To the better city that blood purchased.
I am lying under my burden,
My little heart is bruised;
I am oppressed by this,
O, help, my worthy Beloved:
O come quickly, lead me up,
To the delightful place
where the saints are living.
Every flood, and torrent, and wave,
Every scorn and keen persecution,
They go over my breast,
I know the extremity of their force;
For a little while await I shall,
I know deliverance shall come to me.
- - - - -
A sinner I have ever been
Of a defiled sort;
A sinner I insist on being
Against my God's grace:
O forgive freely my faults now,
On account of the blood of great Jesus.
A transgressor I am, O God,
Very well I know this:
Very unworthy to live
This side of the infernal lake;
Under its burden is my weak soul,
Extend thy arm and lead my up.
The number of my sins is
Like the fine dew of evening;
And all those every day
O very black colours;
But a river streamed on the hill
Which can wash me all white.
tr. 2016,25 Richard B Gillion
|
|