Pechadur wyf a ga'dd ei gadw
Trwy waed y croeshoeliedig Oen,
Fy nyled talodd ar Galfaria,
Tynnodd f'enaid blin o'i boen:
Trwy fawr gleisiau'r
Oen difrychau,
Fy enaid clwyfus wnawd yn iach;
Fy ngwaith heb dewi
fydd ei foli,
Yr ochor draw 'mhen gronyn bach.
Er maint cyfrwysdra'r ddraig
a'i gallu,
I flino f'enaid ar ei daith,
Yn llaw fy Mhriod 'rwy'n myn'd adre',
Trwy ganol yr anialwch maith:
Y ddraig ynghyd â'i holl ellyllon,
A gauir obry yn y llyn;
Caf ganu i'r Oen i drag'wyddldeb,
Laddwyd ar Galfaria fryn.
Teimlo f'enaid 'rwyf mewn undeb
A 'nghyfeillion byth sydd draw;
Ni bydd llid na grym gelynion
I'm blino yn y byd a ddaw:
Y wisg briodas sydd o'm cwmpas,
Fe'm cadwodd cadwedigol ras;
Derfydd amser
temptio a phechu,
Af o'r cystudd mawr i ma's.
'Bryd y ca'i'r balmwydden hyfryd,
Ac auraidd delyn yn fy llaw,
Ymhlith cariadau'r Oen a laddwyd,
Heb boen mi gana'n braidd draw.
Derfydd amser i ryfela;
Pwy a'm clwyfa byth mewn hedd?
Uwchlaw cyrraedd temptasiynau
Gwaethaf angeu, byd, a'r bedd.
Morgan Rhys 1716-79Golwg o Ben Nebo, 1764. |
A sinner I am who got kept
Through the blood of the crucified Lamb,
My debt he paid on Calvary,
He pulled my vexed soul from its pain:
Through the great bruises
of the unspotted Lamb,
My wounded soul was made whole;
My work without falling silent
will be to praise him,
On yonder side after a little while.
Despite the craftiness of the dragon
and his power,
To vex my soul on its journey,
In the hand of my Spouse I am going home,
Through the middle of the vast desert:
The dragon together with all his demons,
Are to be closed below in the lake;
I will get to sing to the Lamb for eternity,
Who was slain on Calvary hill.
My soul feels I am in union
With friends forever who are yonder;
There will be no wrath nor force of enemies
To vex me in the world to come:
The wedding clothing is around me,
Preserving grace has preserved me;
The time of tempting and sinning
will pass away,
I will go out of the great tribulation.
When shall I get the delightful palm,
And a golden harp in my hand?
Amongst the lovers of the Lamb who was slain,
Without pain I will sing sweetly yonder.
The time for war will pass away;
Who will wound me ever in peace?
Above the reach of temptations
Despite death, the world, and the grave.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|