Pechadur aflan wyf o'r bru,
Mewn gwraidd a changen oll yn ddu,
Pechadur llwm, heb nerth,
heb ddawn,
A drochwyd mewn trueni llawn.
Er dyfned yw fy mhla
a'm nŷch,
Mae gennyf Arch-offeiriad gwŷch;
Fe wella 'nghlwy,
fe ddwg fy maich;
Mae'm henw ar ei fron a'i fraich.
O fewn i'r nef mae heddyw Frawd,
Yn ogoneddus yn fy nghnawd,
Yn dadleu'n bur ei haeddiant gwiw;
Caf finnau welliant i fy mriw.
Thomas Jones 1756-1820Trysorfa Ysprydol, Hydref 1800. [Mesur: MH 8888] |
An unclean sinner I am from the womb,
In root and branch all black,
A bare sinner, without strength,
without ability,
Who was soaked in full misery.
Despite how deep is my plague
and my sickness,
I have a brilliant High-priest;
He will heal my disease,
he will take my burden;
My name is one his breast and his arm.
Within heaven is today a Friend,
Glorious in my flesh,
Pleading purely his worthy merit;
I will get healing for my bruise.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|