Pe cawn i'm rhan
drysorau'r byd,
Ei rwysg a'i wynfyd
oll ynghyd,
Fe'u rhown i lawr i gyd yn llon
Am brofi heddwch
dan fy mron.
Pe cawn y fraint o wrando'n awr
Holl ber ganiadau'r nefoedd fawr,
Nid hynny'n wir a'm hesmwythai
Tra fwyf yn griddfan dan fy mai.
O! dwed y gair, fy Arglwydd Dduw,
Y gair a wna i'm henaid fyw;
O! dwed dy fod yn maddau i mi
Fy meiau oll, er maint eu rhi'.
Os dwedi hyn mi deimlaf hedd,
Ni chara' i'r byd,
nid ofna' i'r bedd;
Fy mhrofiad llesg
dry'n ganiad llon,
A'r nef ddechreua dan fy mron.
William Ambrose (Emrys) 1813-73
Tonau [MC 8888]: |
If I could get to my lot
the treasures of the world,
Its splendour and its blessedness
altogether,
I would put them all down cheerfully
For me to experience peace
under my breast.
If I could get the privilege of hearing now
All the sweet songs of great heaven,
Those would not truly bring me ease
While I am groaning under my fault.
O say the word, my Lord God,
The word that makes my soul live;
O say that thou art forgivning me
All my faults, despite their number.
If thou sayest this I will feel peace
I will not love the world,
nor will I fear the grave;
My fainting experience
will turn into a cheerful song,
And heaven will begin under my breast.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|