Pan yn rhoddi nos dda
i bob peth yn y byd,
A chauad fy llygaid mewn hûn:
Pan fyddo'm cyfeillion
yn cefnu i gyd,
A minnau'n myn'd ymaith fy hun:
Pan egyr fy llygaid
ar ddinas fy Nuw,
A gweled gogoniant y nef, -
Fydd rhywyn bryd hyn
yn fy nisgwyl yn dod,
Fy nisgwyl yn dyfod i dref?
Fydd rhywyn bryd hyn
yn fy nisgwyl yn dod,
Fy nisgwyl yn dyfod i dref?
Yn disgwyl, fy nyfod
yn disgwyl fy nyfod i dref.
Mai rhai bychain amddifed
o'm cylch y'mhob man,
Ag eisiau arweinydd drwy'r byd:
Yn erfyn fy ngweled
yn gwneuthur fy rhan,
I sychu ei dagrau o hyd:
Mae'r Iesu'n cymeryd
plant bychain fel hyn,
O drallod y ddaear i'r nef, -
Fydd rhywun o'r rhai'n
yn fy nisgwyl yn dod,
Fy nisgwyl yn dyfod i dref?
Fydd rhywun o'r rhai
yn fy nisgwyl yn dod,
Fy nisgwyl yn dyfod i dref?
Mae yr hen a'r methedig
ar ol yn y byd,
A'u hanwyl gyfellionmewn bedd:
Mae gair mwyn, neu weithred
garedig mewn pryd,
I fywyd y truan yn hedd:
Mae'r Arglwydd yn cym'ryd
yr hen ato'i hun,
Eu cartref sydd fry yn y nef, -
Fydd rhywun o'r rhai'n
yn fy nisgwyl yn dod,
Fy nisgwyl yn dyfod i dref?
Fydd rhywun o'r rhai
yn fy nisgwyl yn dod,
Fy nisgwyl yn dyfod i dref?
Ac os byth yr af yno,
yn haeddiant yr Hwn,
A'm prynodd a chariad mor ddrud:
Er nad wyf yn byw
fel y dylwn mi wn,
Er nod wy'n bendithio y byd:
'Rwy'n credu yr wylwn
o herwydd fy mai,
Pe'n bosibl wylo'n y nef, -
Os na fyddai neb
yn fy niswyl yn dod,
Fy nisgwyl yn dyfod i dref.
Os na fyddai neb
yn fy niswyl yn dod,
Fy nisgwyl yn dyfod i dref.
cyf. Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905
Tôn: Fy disgwyl yn dod i dref (Philip P Bliss 1838-76) |
When bidding good night
to every thing in the world,
And closing my eyes in sleep:
When my friends are
all turning their backs,
And I also going away myself:
When my eyes lift up
to the city of my God,
And see the glory of heaven, -
Will someone then be
waiting for me to come,
Waiting for me to come home?
Will someone then be
waiting for me to come,
Waiting for me to come home?
Waiting, for me to come,
waiting for me to come home.
There are some small, destitute
around me everywhere,
With need of guiding through the world:
Pleading to see me
doing my part,
To dry their tears always:
Jesus receives
little children like this,
From the trouble of the earth to heaven, -
Will someone of those be
waiting for me to come,
Waiting for me to come home?
Will someone of those be
waiting for me to come,
Waiting for me to come home?
The old and the sick are
left in the world,
And their beloved friends in a grave:
There is a gentle word, or loving
action in time,
For the life of the wretch in peace:
The Lord receives
the old to himself,
Their home is above in heaven, -
Will someone of those be
waiting for me to come,
Waiting for me to come home?
Will someone of those be
waiting for me to come,
Waiting for me to come home?
And if ever I go there,
in the merit of Him,
Who redeemed me with love so costly:
Although I am not living
like I know I ought,
Although I am not blessing the world:
I believe I would weep
because of my sin,
If it were possible to weep in heaven, -
If there were no-one
waiting for me to come,
Waiting for me to come home.
If there were no-one
waiting for me to come,
Waiting for me to come home.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
I am waiting for the Master,
Who will bid me rise and come
To the glory of His presence,
To the gladness of His home.
They are watching at the portal,
They are waiting at the door;
Waiting only for my coming,
All the loved ones gone before.
Many a weary path I've travelled,
In the darkest storm and strife,
Bearing many a heavy burden,
Often struggling for my life.
Many friends that travelled with me,
Reached that portal long ago;
One by one they left me battling
With the dark and crafty foe.
Yes, their pilgrimage was shorter,
And their triumph sooner won;
Oh, how lovingly they'll greet me
When the toils of life are done.
Katherine M Reasoneralso attributed to: W L Alexander |