Pan fo tonnau poen a blinder
Yn cynhyrfu'm henaid trist,
Câf obennydd esmwyth, tyner,
Yn addewid Iesu Grist:
Doed y byd ato'i gyd, -
Dyma gysgod tawel, clyd.
Wedi stormydd geirwon, enbyd,
Wedi gwynt cynhyrfus, cryf,
Yn Ei ddistaw lêf mae bywyd
Wna fy yspryd gwan yn hyf:
Defnydd nef sy'n Ei lêf,
Ddena f'enaid ato Ef.
Dyma'm nefoedd ar y ddaear,
Ydyw gwedd
Ei wyneb llon;
Trŷ annedwydd ddyffryn galar
Yn Seceina ger fy mron:
Tyrd yn awr, Iesu mawr,
Tỳn fy mryd oddi ar y llawr!
Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937
Tôn [8787337]: Bryn Gilead (John Roberts 1807-76) |
Whenever the waves of pain and weariness be
Agitating my sad soul,
I may get a smooth, tender cushion,
In the promise of Jesus Christ:
Let the world come together, -
Here is a quiet, cosy shadow.
After rough, furious storms,
After agitating, strong wind,
In His quiet cry is life
That makes my weak spirit bold:
The topic of heaven that is in His cry,
Attracts my soul to Him.
Here is my heaven on the earth,
It is the countenance
of His cheerful face;
The unhappy vale of mourning turns
Into Shekinah before me:
Come now, great Jesus,
Draw my attention from the earth!
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|