Pan ddeuai'r gelyn gau,
A maglau o fy mla'n;
Yn fy nghyfyngder rhoddais lef,
A chlybu f'Arglwydd glān.
O'i deml santaidd edrych wnaeth
Ar adyn caeth mewn cur;
Rhy fach i'w attal ef i lawr
Yw moroedd mawr a mur.
Nid oes cyfwng, nac un man
Tra byddwyf dan y nef;
Na chnawd nac ysbryd all fy lladd,
Os gwaeddaf arno ef.
Crynhodeb o Hymnau Cristnogol (Daniel Jones) 1845
[Mesur MB 6686] |
When the false enemy came,
With snares before me;
In my straits I gave a cry,
And my holy Lord heard me.
From his sacred temple look he did
On a captive bird in pain;
Too small to keep him down
Are great seas and a wall.
There is no strait, nor any place
While ever I am under heaven;
Nor flesh nor spirit that can kill me,
If I shout out to him.s
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|