Plana'm corff a'i holl alluoedd

(Yr Eglwys)
Plana'm corff a'i holl alluoedd,
  Plana'm henaid oll o'r bron,
Yn dy dŷ a chyda'th bobol,
  Tra b'wyf ar y ddaear hon;
    Cymmer feddiant
  Cyflawn byth o honof mwy.

Yn y deml gydag Anna
  Mi arosaf ddyddiau f'oes,
Byth o'th dŷ ni cheisiaf ysgog
  Er ei myn'd yn dywyll nos;
    Gwell bod yno'n
  Cadw'r drws,
        nâ lle'n y byd.

Ar ol dysgwyl fel Simeon
  Ddyddiau meithion, pwy a ŵyr
Na chaf wel'd dyddanwch Israel,
  Megys yntau yn yr hwyr;
    Os caf hyny,
  Mewn tangnefedd marw wnaf.
Cas. o dros 2000 o hymnau (S Roberts)

Tôn [878747]: Bethesda (alaw Ellmynig)

Gwelir: Yn y deml megys Anna

(The Church)
Plant my body and all its abilities,
  Plant my soul all completely,
In thy house and with thy people,
  While I am on this earth;
    Take possession
  On me fully, forever, evermore.

In the temple with Anna
  I shall stay all the days of my age,
Never from thy house shall I seek to move
  Although it becomes dark night;
    Better to be there
  Keeping the door,
        than anywhere in the world.

After waiting like Simeon
  For long days, who knows
That I may see Israel's consolation,
  Like him in the evening;
    If I get this,
  In tranquility I shall die.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~