Pwy sy'n dwyn y Brenin adref?
Pwy sy'n caru gweld ei wedd?
Pwy sy'n parchu deddfau'r goron
Ac yn dilyn llwybrau hedd?
Hwn fydd mawr dros y llawr,
Dewch i'w hebrwng ef yn awr.
Pwy sy'n taenu cangau'r palmwydd
Ar y ffordd o dan ei draed?
Ple mae mintai y cerddorion
I glodfori gwerth ei waed?
Mawr fydd ef yn y nef,
Dewch yn awr i'w ddwyn i dref.
Doed y rhai sy'n llesg eu meddwl,
Doed y rhai sy'n galon drist;
Fe â llawer gofid heibio
Wrth was'naethu Iesu Grist:
Os efe gaiff ei le,
Daw y ddaear fel y ne'.
Cilied bellach bob anghariad
Dan dwyniad gras y nef;
Os am ddwyn y Brenin adref
Rhaid bod yn Ei Ysbryd Ef;
Yma'n awr boed E'n fawr,
Yng nghalonnau teulu'r llawr!
Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953Telyn y Cristion 1902 Tôn [878767]: Blaen-y-Coed (Joseph Parry 1841-1903) |
Who is bringing the king home?
Who is loving seeing his face?
Who is revering the laws of the crown
And following the paths of peace?
He will be great over the earth,
Come ye to escort him now.
Who is spreading the palmtree's branches
On the road under his feet?
Where is the band of musicians
To extol the worth of his blood?
Gret he shall be in heavan,
Come ye now to bring him home.
Let those whose minds are feeble come,
Let those who are sad in heart come;
Many a grief shall pass away
While serving Jesus Christ:
If he gets his place,
The earth shall become like heaven.
Let every lack of love retreat
Under the bringing of heaven's grace;
If one would bring the King home
One must be in his Spirit;
Here now let him be great,
In the hearts of earth's family below!
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|