Pan y byddwyf yn ymdrechu,
Dan law angau,
yr olaf awr,
Yn yr ymdrech cyfyng hynny,
Duwioldeb fydd yn elw mawr;
Elw fydd yn ngrym yr afon
Elw'n ddyru i'm henaid hedd,
Llefaf am yr elw hwnnw,
Tra bwy'r ochr hyn i'r bedd.
O'r fath elw yw duwioldeb!
Sydd drag'wyddol ei barhad,
Llawen can y gwaredigion,
Yr ochr draw yn Nghanaan wlad;
Minnau ganaf yma ronyn,
Tra bwyf yn yr ochr hyn,
Pan y dof i blith y cwm'ni,
Mi gana'n well ar Sion fryn.
Darfod mae trysorau'r ddaear,
'Hedeg ymaith maent o hyd,
Gwir dduwioldeb ydyw'r elw,
Dâl im' roddi arno mryd;
Anghydmarol a thrag'wyddol
Yw'r trysor dryd addawyd im',
Ffarwel, ffarwel, berlau daear,
Yn ochr hwn ni thalant ddim.
Caniadau Sion 1827
[Mesur: 8787D] gwelir: Gwell i mi na pherlau'r India |
When I am struggling,
Under the hand of death,
at the last hour,
In this straitened struggle,
Godliness shall be a great gain;
Gain it shall be in the force of the river
Gain giving my soul peace,
I will cry for that gain,
While I am on this side of the grave.
O what gain is godliness!
Which is eternal in its endurance,
The joyful song of the delivered,
On yonder side in Canaan land;
I too shall sing here for a while,
While I am on this side,
When I come amongst the company,
I shall sing better on Zion hill.
Perishing are the treasures of the earth,
Flying away are they always,
True godliness is the gain,
Keep me giving it my attention;
Incomparable and eternal
Is the costly treasure promised to me,
Farewell, farewell, pearls of earth,
On this side they shall pay nothing.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|