Pan fo'n blynyddoedd ni'n byrhau,
Pan fo'r cysgodion draw'n dyfnhau,
Tydi, yr unig un a ŵyr,
Rho olau'r haul ym mrig yr hwyr.
Er gwaeled fu a wnaethom ni
Ar hyd ein hoes a'i helynt hi,
Er crwydro ffôl
ar lwybrau gŵyr,
Rho di drugaredd gyda'r hwyr.
Na chofia'n mawr wendidau mwy,
A maint eu holl ffolineb hwy;
Tydi, yr unig un a'i gŵyr,
Rho di drugaredd gyda'r hwyr.
Mae sŵn y byd
yn cilio draw,
A dadwrdd ynfyd dyn a daw;
A fydd ein rhan, tydi a'i gŵyr,
Rho di oleuni yn yr hwyr.
T Gwynn Jones 1871-1949
Tonau [MH 8888]: |
When our years are shortening,
When yonder shadows are deepening,
Thou, the only one who knowest,
Give the light of the sun at nightfall.
Despite how poor was what we did
Along our lifetime and its course,
Despite wandering foolishly
on veering paths,
Give thy mercy with the evening.
Remember no more our great weaknesses,
And the extent of all their folly;
Thou, the only one who knowest,
Give thy mercy with the evening.
The sound of the world is
retreating yonder,
And the mad clamour of man shall come;
What shall be our part, thou knowest,
Give thy light in the evening.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|