Pa bryd, O Iesu, caf fi fod
Mewn anian llawn i ganu clod,
Uwchlaw y byd, ar aden ffydd,
A chwant dwad adre'n
fwy bob dydd?
Yn agos atat gad im' fod,
Yn llawn o gariad f'enaid dod;
Blaen-dast o'r nef, gad imi gael;
Clyw, ateb fi, O Iesu hael!
Gwna i dy gariad, Arglwydd glān,
I losgi ynof megis tān:
Glanha fy enaid, deisyf 'rwyf,
Pura fi, Arglwydd, gwella'm clwyf.
Fy mhechod lladd, nac arbed un,
Dy ddelw arnaf dod, a'th lun;
I lawr a Satan, dan fy nhraed,
Clyw, ateb fi, O f'anwyl Dad!
O tyr'd, gwna hyn o waith ar fyr,
Fy holl gadwynau, Iesu, tyr;
Dechreuad gwan dwg Di i ben,
O'm calon 'rwyf yn dweyd, - Amen.
William Williams 1717-91
[Mesur: MH 8888] |
When, O Jesus, shall I get to be
In a full nature to sing praise,
Above the world, on wings of faith,
With a desire to come home
greater every day?
Nearer to thee let me be,
Full of love may my soul become;
A foretaste of heaven, let me have;
Hear, answer me, O generous Jesus!
Make thy love, holy Lord,
Burn in me like a fire:
Cleanse my soul, I plead,
Purify me, Lord, heal my wound.
Kill thou my sins, nor save one,
Thy image in me put, and thy likeness;
Down with Satan, under my feet,
Hear, answer me, O my dear Father!
O come thou, do this work shortly,
All my chains, Jesus, break thou;
A weak beginning bring thou to an end,
From my heart I am saying, - Amen.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|