Os rhaid im' ddyoddef ar fy nhaith
dywydd garw;
Cadw f'ysbryd yn dy waith,
hyd fy marw:
Yn y babell gyda'r arch,
boed fy nghartre';
A chadw yn fy enaid barch
i dy ddeddfau.
Gelynion creulon sydd yn llu
i'm gwrth'nebu;
Am hyn, atolwg, saf o'm tu,
Arglwydd Iesu;
Dal fi i'r làn er gwaetha'r ddraig
a'i holl luoedd;
Minnau folaf Had y wraig
yn oes oesoedd.
Os rhaid goddef ar fy nhaith
dywydd garw;
Cadw f'ysbryd yn dy waith,
hyd fy marw:
Yn y babell gyda'r arch,
boed fy nghartre';
Cadw yn fy enaid barch
i dy ddeddfau.
John Hughes 1775-1854
Tonau [747474]: gwelir: Gelynion creulon sydd yn llu |
If I must suffer on my journey
rough weather;
Keep my spirit in thy work,
until I die:
In the tabernacle with the ark,
may my home be;
And keep in my soul reverence
for thy laws.
Cruel enemies are a force
to oppose me;
Therefore, I pray, stand on my side,
Lord Jesus;
Hold me up despite the dragon
And all his forces;
As for me, I will praise the Woman's Seed
forever and ever.
If I must endure on my journey
rough weather;
Keep my spirit in thy work,
until I die:
In the tabernacle with the ark,
may my home be;
Keep in my soul reverence
for thy laws.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|