O! na chawn i olwg hyfryd
Ar ei wedd, Dywysog bywyd;
Tegwch byd
a'i holl bleserau,
Yn ei ŵydd
a lwyr ddiflanai.
Melus odiaeth yw ei heddwch,
Anghymharol ei brydferthwch;
Ynddo'n rhyfedd cydlewyrcha,
Dwyfol fawredd a mwyneidd-dra.
Uchelderau mawr ei Dduwdod,
A dyfnderoedd ei ufudd-dod,
Sy'n creu synu fyth ar synu,
Yn nhrigolion gwlad goleuni.
David Charles 1762-1834
Tonau [8888]: |
Oh that I may get a lovely view
On his face, the Prince of life;
The fairness of the world
and all its pleasures,
In his countenance
shall completely disappear.
Exquisitely sweet is his peace,
Incomparable his beauty;
In him amazingly shine together
Divine majesty and meekness.
The great heights of his Divinity,
And the depths of his humility,
Create wonder forever upon wonder,
In the residents of the land of light.
tr. 2013 Richard B Gillion
|
|