O na byddai oriau mywyd,
Yn ymborthi ar oriau'th boen,
Fel y gallwyf fi gydredeg,
A chystuddiau'r addfwyn Oen;
Fe gāi 'mhechod,
Felly'n fuan golli'r dydd.
Felly cawn gan f'enaid ddilyn
Ei ofidiau hyfryd ef,
Fel mae goleu'r dydd yn cadw
Cwmni disglaer haul y nef:
'Chai'm gorddiwes
Gwmmwl du na thywyll nos.
Fel bo i'r dorf di-rif o feiau
Wybod hyn yn ddinacād;
Yn mha glwyf, ac yn mha ofid,
Yn mha archoll, mae'm hiachād;
Fel y gallwyf,
Heb hir oedi, fod yn lān.
William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: O na bai cystuddiau f'Arglwydd |
O that the hours of my life were
Feeding on the hours of thy pain,
Thus I would run together
With the afflictions of the dear Lamb;
My sin would get
Thus soon to lose the day.
Thus I would get by my soul to follow
His delightful griefs,
That the light of day would keep
Company with the shining sun of heaven:
Neither darkness of night nor
Any black cloud would get to overtake me.
That the innumerable crowd of faults would
Know this innocently;
In what sickness, and in what grief,
In what wound, is my healing,
Thus I would,
Without long delaying, be clean.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|