O mor dirion ac mor dadol,
Mae fy Arglwydd yn fy nhrin,
Rhoi cysuron angenrheidiol
Imi yn fy nghystudd blin;
Arbed wnaeth roi garwach ergyd,
Gwybod oedd nad o'wn ond gwan;
Ac yng nghanol grym fy nghystudd,
Daliodd f'ysbryd llesg i'r lan.
Bugail yw, nid ofnaf rodio
Yn ei law 'rhyd llwybrau glyn
Cysgod angeu, can's palmentodd
Ef â'i gnawd y dyffryn hyn:
Beth i mi yw cystudd mwyach,
Angeu, 'r bedd,
a'r farn a ddaw?
Beth, ond bywyd corff ac enaid,
Bywyd dedwydd yn ei law?
Casgliad o Hymnau (... ein Heglwys) Daniel Jones 1863
[Mesur: 8787D] |
O how tender and how fatherly,
Is my Lord in treating me,
Giving necessary comforts
To me in my grievous affliction;
He spared giving a rougher blow,
Knowing that I was only weak;
And in the middle of my affliction's force,
He held my feeble spirit up.
A Shepherd he is, I will not fear to walk
In his hand along the paths of the vale
Of the shadow of death, since he paved
With his flesh this valley:
What to me is affliction any more,
Death, the grave,
and the coming judgment?
What, but a life of body and soul,
A happy life in his hand?
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|