O'm pen i'm traed,
annhraethol aflan wyf,
Nid oes lanhâd
ond yn Ei farwol glwyf;
Y ffynnon hon agorwyd ar y bryn,
Er dued wyf,
a'm gylch yn hyfryd wyn.
Mae haeddiant mawr
rhinweddol waed fy Nuw,
Yn llawer mwy na'r
pechod gwaetha'i ryw;
Ceir maddeu myrdd
o'r beiau mwyaf gaed,
A'r euog brwnt
a gànir yn y gwaed.
Efe yw'r Iawn tros ein pechodau ni,
Ei ddryllio wnaed ar fynydd Calfari:
Ein dyled mawr a dalwyd yno'n llawn,
A'r llyfrau oll
a groeswyd un prydnawn.
John Elias 1774-1841
Tonau [10.10.10.10]: gwelir: Mae haeddiant mawr rhinweddol waed fy Nuw |
From my head to my feet,
inexpressibly unclean I am;
There is no cleansing
but in his mortal wound;
This fount that was opened on the hill,
Despite how black I am,
shall wash me delightfully white.
The great merit of
the wonderful blood of my God
Is much greater than the
sin of the worst kind:
To be got is forgiveness of a myriad
of the greatest sins there are,
And the dirty, guilty one
is to be bleached in the blood.
He is the Satisfaction for our sins;
He was broken on the mount of Calvary:
Our great debt was paid there in full,
And all the books
were crossed one afternoon.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|