O Iesu'r meddyg da,
Iachâ fy enaid caeth,
A sicr seilia fi ar y Graig
Sydd uwchlaw'r ddraig a'i saeth;
Am ddiangc wyf i'th gôl,
Mae'n f'ol elynion griw,
O cofia mod mewn anial wlad,
A char fi'n rhad tr'wy' byw.
Sodoma, 'r Aipht, y man
Croeshoeliwyd 'r anwyl Oen,
Yn mhell o olwg Canaan wiw,
'Rwy'n byw mewn dygn boen,
Yn mhlith gelynion haid,
Bydd im' yn blaid, fy Nuw;
O cofia mod, &c.
Ar lan y llyn yn wir
Y bum yn hir a maith,
Yn dyfal ddysgwyl gwneyd yn iach,
Fy enaid bach oedd gaeth;
Un olwg ar dy waed
Roiff im' iachad o'm briw;
O cofia mod, &c.
Fy mhechod maddeu clyw,
Er cymaint yw eu rhif;
Mae afon bur
(o'th ystlys rad)
O ddwr a gwaed yn llif;
Ac yma golch fi'n lân,
Fel gwello'm ffiaidd friw;
O cofia mod, &c.
Bydd im' yn dirion ffrynd;
Rhaid im' gael myn'd yn rhydd:
P'odd gallai aros yma'n hwy?
Fy nghlwyfau'n fwy-fwy sydd,
Ond llefain wnaf hyd fedd
Am hyfryd hedd fy Nuw;
O cofia mod, &c
N'âd i mi ofni mwy
Fyn'd trwy'r anialwch maith;
Er gwaetha'r lluoedd sydd îs nen,
Dwg fi i ben fy nhaith:
Cysura'm calon wan,
A sypiau'r Ganaan wiw!
O cofia mod mewn anial wlad,
A char fi'n rhad tr'wy' byw.
- - - - -
O Iesu'r meddyg da,
Iacha fy enaid caeth;
A sicrhâ fi ar y graig
Uwchlaw y ddraig a'i saeth:
Am ddiangc 'rwyf yn nes
I fynwes bûr fy Nuw,
O llanw fi mewn anial wlad,
A'th gariad tra f'wi byw.
Pererin llesg a llaith,
Dechreuais daith oedd bell,
Trwy lu o elynion
mawr eu brâd,
Gan geisio gwlad sydd well:
Am ffoi mae f'enaid tlawd
At f'anwyl Frawd a'm pen,
Yn Salem fry, par'to fy lle
Mewn llys tu fewn i'r llen.
Mae 'mrodyr uwch y nen
Yn canu ar ben eu taith,
Er hyn hwyrfrydig iawn fum i,
Ag oedi lawer gwaith:
Ond bellach tyn fi'n ddwys,
Ar Grist rho bwys fy mhen,
Yn Salem fry, par'to fy lle,
Mewn llys o fewn i'r llen.
William Williams 1717-91Aleluia 1749 Tôn [MBD 6686D]: Vermont (<1811) gwelir: Fy ngweddi dos i'r nef Mae tywyll anial nos Mi a ddarfyddaf mwy Pererin llesg a llaith |
O Jesus the good physician,
Heal my captive soul,
And securely establish me on the Rock
Which is above the dragon and his arrow;
I want to escape to to thy bosom,
After me is a band of enemies,
O remember that I am in a desert land,
And love me freely while ever I live.
Sodom, Egypt, the place
The dear Lamb was crucified,
Far from the sight of worthy Canaan,
I am living in intense pain,
Amongst a swarm of enemies,
Be my protection, my God,
O remember that I am etc.
Beside the lake truly
I was for a long and tiresome time,
Devotedly expecting to be made whole,
My little soul was captive;
One look at thy blood
It gave me healing from my wound;
O remember that I am etc.
Hear to forgive my sins,
Despite how great is their number;
There is a pure river
(from thy gracious side)
Of water and blood as a flood;
And here wash me clean,
That my detestable bruise be healed;
O remember that I am etc.
Be to me a tender friend;
I must get to go free:
How could I stay here any longer?
My wounds are more and more,
But cry I shall as far as the grave
For the delightful peace of my God;
O remember that I am etc.
Do not let my fear any more
Going through the vast desert;
Despite the hosts that are under the sky,
Lead me to my journey's end:
Comfort my weak heart,
With the clusters of worthy Canaan!
O remember that I am in a desert land,
And love me freely while ever I live.
- - - - -
O Jesus the good physician,
Heal my captive soul;
And secure me on the rock
Above the dragon and his arrow:
Want to escape I am next
To the pure bosom of my God,
O flood me in a desert land,
And thy love while ever I live.
A pilgrim feeble and soft,
I began my journey which was far,
Through a host of enemies
of great treachery,
While seeking a land that is better:
Wanting to flee is my poor soul
To my dear Brother and my head,
In Salem above, prepare my place
In a court within the curtain.
My brothers are above the sky
Singing at their journey's end,
Therefore very reluctant was I,
And delaying many a time:
But henceforth draw me intensely,
On Christ lean my head,
In Salem above, prepare my place,
In a court within the curtain.
tr. 2018,19 Richard B Gillion
|
|