O gwynfyd Abra'm hyfryd
sy'n nhir y bywyd draw,
Dafydd frenhinol brophwyd
sy' â thelyn yn ei law;
A'r dorth fawr o ferthyron
mewn gynau gwynion hardd,
Can mil yn fwy dedwyddol
nag Adda yn yr ardd.
Mae Noa, Job, a Daniel,
tu draw i ddinas gwae,
Fe ddarfu dyddiau'u galar,
maent hwy yn llawenhau
Ymhlith y dorf aneirif,
rhifedi gwith y ma's,
Sy'n canu i'r Oen a laddwyd
am waredigol ras.
Manasse a Magdalen
sydd yno oll yn un,
Yn seinio'r nefol anthem
o fawl i Fab y dyn;
Mae Esay a Jeremia
i'r Oen yn rhoddi'r clod,
Ioan sy'n canmol cariad
ddechreuodd cyn ei fod.
Mae Moesen fwyn ac Eli
fry yn rhyfeddu Duw,
Mae Enoc ac Elias
yn gwel'd ei wyneb gwiw;
Mae Paul a Pheder yno,
O wynfydedig saint!
Gwyn fyd f'ai yn y bywyd
yn cyd-feddiannu'r fraint.
Gwyn fyd y rhai ddihangodd
o gystudd mawr y byd,
Fy enaid sydd yn gruddfan
wrth wel'd y dyddiau cyd;
Caf gyflawn fuddugoliaeth
ar bechod a phob pla,
A byw byth yn y teulu
sy'n moli'm Iesu da.
Morgan Rhys 1716-79Golwg o Ben Nebo 1775 [Mesur: 13.13.13.13 / 7676D] gwelir: 'Nôl treuliwyf yn y bywyd |
O the deightful blessedness of Abraham
who is in the land of life yonder,
David, the kingly prophet
who is with a harp in his hand;
And the great throng of martyrs
in beautiful, white gowns,
A hundred thousand times more happy
than Adam in the garden.
Noah, Job and Daniel are
beyond the city of woe,
The days of their lamentation passed away,
they are rejoicing
Amongst the innumerable throng,
numbers of the dew of the field,
Who are singing to the Lamb who was slain
for delivering grace.
Manasseh and Magdalen
are there all as one,
Sounding the heavenly anthem
of praise to the Son of man;
Isaiah and Jeremiah are
to the Lamb giving acclaim,
John is extolling the love
which began before he was.
Dear Moses and Eli are
above wondering at God,
Enoch and Elijah are are
seeing his worthy face;
Paul and Peter there,
O blessed saints!
Blessed would I be in the life
sharing the privilege.
Blessed are those who escaped
from the great tribulation of the world,
My soul is groaning
on seeing the days so long;
I shall get full victory
over sin and every plague,
And live forever in the family
which is praising good Jesus.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|