O! fy Iachawdwr gwerthfawr, rhad,
Nid oes ond gwaed Dy galon,
Yn unig gysur dan y ne'
Ddyddana'r pererinion.
Rhaid i mi gael pob gras, pob dawn
O'th drysor llawn yn gyfan;
Ac oni châf, fy enaid prudd
A gyll y dydd yn fuan.
Dy wisg dy hun, cyfiawnder hael,
Raid i mi gael yn mlaenaf;
Nid oes ond ofnau dan fy mron
Nes caffwyf hon am danaf.
Gwyn fyd y rhai dile'st eu bai,
Eu pechod a'u hanwiredd,
Gan roi iddynt nerth,
er cnawd a byd
I bara hyd y diwedd.
William Williams 1717-91
Tôn [MS 8787]: Dyffryn Maelor (E O Parry) gwelir: O'i ystlys bur yn cwympo i lawr |
O my gracious, precious Saviour!
Nothing but Thy heart's blood,
As an only comfort under heaven
Consoles the pilgrims.
I must get every grace, every gift
From thy full treasure altogether;
And unless I do, my sad soul
Shall lose the day soon.
Thy own clothing, generous righteousness,
I must get first;
There are only fears under my breast
Until I get this for myself.
Blessed are those whose fault, whose sin,
And whose falsehood thou dost delete,
While giving them strength,
despite flesh and world
To endure until the end.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|