O f'enaid! hêd i'r làn,
Dros fryniau ucha'r byd,
A gwêl dy gyfoeth, gwêl dy ran
Anfeidrol ddrud;
Trysorau o ddwyfol rîn
Bwcaswyd imi'n llawn,
Gan fy Ngwaredwr addfwyn, cun,
Ar un prydnawn.
'Fe bellach fydd fy nghân,
A'm hamddiffynfa glyd,
Fy nhŵr, fy nghraig, a'm noddfa lân,
Tra yn y byd;
Pan 'talodd ddwyfol waed,
Pwy ofyn imi mwy?
Can's anfeidroldeb maith a gaed
Mewn dwyfol glwy'.
Mae angeu'r groes yn fwy
Na haeddiant yr holl fyd;
Y mae griddfanau dwyfol glwy'
Yn gyfoeth drud:
Fe gènir myrdd yn wỳn,
Oll fel yr eira mân;
Ceir gwel'd rhai
ffiaidd ar ol hyn
Yn berffaith lân.
Myfi anturiaf mwy,
Er cymmaint yw fy mai,
Trwy'r haeddiant dwyfol
sy'n Ei glwy,
Heb lwfrhau,
O flaen yr orsedd wèn,
Ffieiddiaf ddyn o'r blaen,
Gan gredu gall Tywysog nen
Fy ngwneyd yn lân.
Tonau [6684D]: |
O my soul, fly up,
Across the highest mountains of the world,
And see thy wealth, see thy portion
Immeasurable, precious;
The treasures of divine virtue
Were purchased fully for me,
By my gentle, dear Deliverer,
On one afternoon.
He henceforth shall be my song,
And my secure defence,
My tower, my rock, and my pure refuge,
While in the world;
When divine blood paid,
Who shall ask of me more?
Since an immeasurable amount is had
In a divine wound.
The death of the cross is greater
Than the merit of the whole world;
The groans of a divine wound are
Costly wealth:
A myriad are to be bleached white,
All like the fine snow;
Some detestable ones are
to be seen after this
Perfectly clean.
I also shall venture more,
Despite the extent of my fault
Through the divine merit
which is in His wound:
Without losing heart:
Before his white throne,
I shall detest man foremost,
While believing the Prince of heaven can
Make me clean.
:: in the world :: I am in the world tr. 2016 Richard B Gillion |
|