O eithaf godiad haul
Hyd eithaf fachlud dydd
Rhown glod ar gân
i Faban Mair,
Tywysog mawr ein ffydd.
Bendigaid Grëwr byd
Gymerodd agwedd gwas,
I ddwyn o garchar euog ddyn
I ryddid pur ei ras.
Cân engyl fawl i Dduw,
A chôr nefolion fil;
Yn Fugail i fugeiliaid daeth
Creawdwr dynol hil.
I'r Iesu glân, Mab Duw,
A Mab y Forwyn wen,
Ynghyda'r Tad
a'r Ysbryd Glân,
Boed moliant byth, Amen.
cyf. (o'r Lladin) John Williams (Ab Ithel) 1811-62
Tonau [MB 6686]: |
From the extreme rising of the sun
To the extreme setting of day
Let us render praise in song
to Mary's Baby,
The great Prince of our faith.
The blessed Creator of the world
Took the aspect of a servant,
To lead from the prison guilty man
To the pure freedom of his grace.
The song of the angels of praise to God,
And a choir of a thousand heavenly ones;
As Shepherd to shepherds he came
The Creator of the human race.
To the holy Jesus, the Son of God,
And Son of the blessed Virgin,
Together with the Father
and the Holy Spirit,
Be praise forever, Amen.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|