|
1,2; 1,3.
O ddyfnderoedd! O ddoethineb!
O ddyfnderoedd maith o ras!
O ddyfnderoedd anchwiliadwy,
Fythol uwch eu chwilio maes!
Mae seraphiaid nef yn edrych,
Gyda syndod bob yr un,
Ar ddyfnderoedd cariad dwyfol -
Duw yn marw tros y dyn!
O anfeidrol berffaith gariad!
Cariad nas gall gras na ddawn,
Dynion, na'r angylion penaf,
Fyth ei adrodd ef yn llawn.
Cariad fydd yn sylfaen gadarn
I bob anthem yn y nef;
Seintiau ac angylion draphlith
Ganant am ei gariad Ef.
Fyth i'r Tad y bo'r gogoniant,
Ro'i a derbyn y fath rodd;
Fyth i'r Mab y bo'r un moliant,
Ddisgyn yma i lawr o'i fodd:
Fyth i'r Ysbryd b'o'r anrhydedd,
Am ddatguddio'r ddyfais rād,
Ac am selio a rho'i ernes
Fod Eiriolwr
gyda'm Tād.
William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Rhan I - Nid oes angel nid oes seraph Dyma gariad fel a moroedd Fe ro'w'd arno bwys euogrwydd Iesu ei hunan yw fy mywyd O anfeidrol berffaith gariad |
O depths! O wisdom!
O vast depths of grace!
O unsearchable depths,
Forever above searching out!
The seraphim of heaven are looking,
With surprise every one,
At the depths of divine love -
God dying for the man!
Oh, immeasurable, perfect love!
Love which no talent or grace of
Men, or the chief angels, could
Ever completely record;
Love which will be a firm foundation,
For every anthem in heaven,
Saints and Angels alike,
Sing about his love.
Forever to the Father be the glory,
Give thou who receivest such a give;
Forever to the Son be the praise,
Who descended here voluntarily:
Forever to the Spirit be the honour,
For revealing the gracious purpose,
And for sealing and giving an earnest
That there is an Intercessor
with my Father.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|