|
dygom ein calon i ddoethineb." - Salm xc. 12.)
O ddydd i ddydd, o awr i awr,
Mae'n nesu gwawr y dwthwn
In' ado'r byd,
a myn'd i'r bedd
Yn oer ein gwedd, ystyriwn.
Olwynion amser sydd yn troi,
Ni fedrwn ffoi rhag angau; -
Yn ddoeth adgofiwn bawb, mewn pryd,
Iawn gyfrif hyd ein dyddiau.
Pob gwaith a dderfydd pan y'n rhoer
Yng ngwely oer marwolaeth;
Gwneyd yn y bedd i'r nefol Gun
Nid ellir un gwasanaeth.
A oes i'w wneyd ddim, ddim yn ol,
Cyn myn'd i'n bythol artref?
Ein henaid gwerthfawr, hoff, a yw
Mewn hedd a Duw y tangnef?
Yn awr yw'r amser, heddyw'r dydd,
Os rhywbeth sydd i'w wella, -
Ni wyr un dyn o dan y ne'
Nad hwn yw 'r cyfle' ola'.
Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846Gwinllan y Bardd 1831 [Mesur: MS 8787] |
we bring our heart to wisdom." - Psalm 90:12.)
From day to day, from hour to hour,
The dawn of that day is approaching
For us to leave the world,
and go to the grave
Cold our face, let us consider.
The wheels of time are turning,
We cannot flee from death; -
Wisely let us all remember, in time,
A true account of the length of our days.
Every work will end when we are put
In the cold bed of mortality;
To do in the grave for the heavenly Dear One
Any service is impossible.
Is anything to be done, anything left,
Before to our everlasting home?
Our favoured, precious soul, is there
In peace with God the tranquility?
Now is the time, today is the day,
If anything is to be improved, -
No man under heaven knows
Whether this is the last opportunity.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|