O ddedwydd, ddedwydd deulu Duw,
Yr Ysbryd eu Dyddanydd yw:
Gweinyddu cysur cryf y mae,
I lňni'r gwan mewn ing a gwae.
O Ysbryd Glân, tyr'd i'n bywhau,
A'n rhoi mewn hedd i lawenhau;
Diddyma bob rhyw ddeddfol ofn,
A chynnal yn yr afon ddofn.
Dyddanwch gwir yr Ysbryd Glân
A ddeil ei rym mewn dw'r a thân;
A'i siriol ymweliadau rhad
Sy flaenbrawf hoff
o'r nefol wlad.
O Ysbryd Duw, rho dy fwynhau,
Ac na foed i mi dy dristâu;
Yn dy ddyddanwch gâd im' fyw,
Yn ernes o baradwys yw.
Roger Edwards 1811-86
Tonau [MH 8888]: gwelir: O Ysbryd Duw rho dy fwynhau |
O happy, happy family of God,
The Spirit their Comforter is:
Serving strong comfort he is,
To cheer the weak in anguish and woe.
O Holy Spirit, come to enliven us,
And to put us in peace to make rejoice;
Comfort every kind of law-based fear,
And support in the deep river.
The true comfort of the Holy Spirit
Shall hold its force in water and fire;
With its cheerful, free visits
Which are a lovely foretaste
of the heavenly land.
O Spirit of God, grant enjoyment of thee,
And may I not sadden thee;
In thy comfort let me live,
An earnest of paradise it is.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|