O cred, O cred, cai gymmorth
I dynnu'r llygaid de';
O cred, O cred, cai allu
I dorri'r fraich o'i lle;
Trwy gredu ti orchfygi
Elynion rif y gwlith,
Cred yn yr Oen yn unig,
Fe'th wna di'n ddedwydd byth.
O tyred Ion trag'wyddol,
Mae ynot ti dy hun,
Fwy moroedd o drugaredd
Nag a feddyliodd dyn:
Os deni at anghenus
A'i'godi ef i'r lan,
Ei galon gaiff, a'i dafod,
Dy ganmol yn y man.
A raid i minnau drenga,
O eisiau dyfroedd clir?
'Rwy bron llewygu'n tramwy,
Y dyrys anial dir:
Dwg fi i'r dyfroedd tawel,
Porfëydd gleision mawr,
Lle mae y rhai lluddedig,
Yn rhoddi en pennau i lawr.
- - - - -
O cred, O cred, cai gymmorth
I dynu'th lygad de;
O cred, O cred, cai allu
I dorri'th fraich o'i lle:
Cred yn yr Oen fu farw
Fry ar Galfaria fryn,
Y fynyd gynta' y credost
Cai lawer mwy na hyn.
Nac edrych ar amodau
Fyth fyth o'th fewn dy hun;
Trwy gredu daw amodau,
Mae gras wrth
gredu nghlyn;
Y fynyd gynta y credost
Yw'r fynyd byddi byw,
Wrth gredu yn Nghrist yn unig
Cai wel'd gogoniant Duw.
William Williams 1717-91
Tonau [7676D]: gwelir: Rhan I - O Yspryd pur nefolaidd |
O believe, believe, thou shalt get help
To pluck out the right eyes;
O believe, believe, thou shal get power
To cut the arm from its place;
Through believing thou shalt overcome
Enemies numerous as the dew,
Believe in the Lamb alone,
He will make thee happy forever.
O come, eternal Lord,
In thee thyself are
Greater seas of mercy
Than man thought:
If thou draw near to a needy one
And lift him up,
His heart shall get, and his tongue,
To praise thee soon.
Must I too die,
From want of clear water?
I am almost fainting, traversing
The troublesome desert land:
Lead me to the quiet waters,
Great, great pastures,
Where the exhausted ones are
Laying their heads down.
- - - - -
O believe, O believe, thou shalt get help
To pluck out thy right eye;
O believe, O believe, thou shalt get power
To cut thy arm from its place:
Believe in the Lamb who died
Up on Calvary hill,
The first minute thou believest
Thou shalt get much more than this.
Do not look at the conditions
Never ever within thyself;
Through believing come conditions,
There is grace in
connection with believing;
The first minute thou believest
Is the minute thou shalt live,
On believing in Christ alone
Thou shalt get to see the glory of God.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|