O! bendithia, Arglwydd Iesu,
Waith y weinidogaeth rad
A odeiniaist i bregethu
Dy anfoniad gan y Tad:
Tystio am dy ymgnawdoliad
A'th farwolaeth ar y Groes:
Tystio am dy atgyfodiad
A'th esgyniad, i bob oes.
Drwyddi ysbrydola d'Eglwys,
Drwyddi gweithia ar y byd;
Dwg flinderog fyrdd i orffwys
Ar dy Iawn a'th angau dryd;
Dal ein llygaid ar dy fywyd,
Ar dy lwybrau dal ein tred,
Cadw ein hwyneb ar y gwynfyd
Brynaist i'n
â'th werthfawr Waed.
Disgwyl mae yr Eglwys uchod
Am eu brodyr ar y llawr;
Disgwyl llawen gydgyfarfod
Ddydd yr Atgyfodiad mawr;
Disgwyl am eu diwedd perffaith,
Gorff ac enaid mewn mwynhad;
Disgwyl dychwel yn orymdaith
Gyda Christ i'r nefol wlad.
Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-95
Tôn [8787D]: Austria (Franz Joseph Haydn 1732-1809) |
Oh, bless, Lord Jesus,
The work of the gracious ministry
Which thou hast ordained to preach
Thy sending by the Father:
Testify about thy incarnation
And thy death on the Cross:
Testify about thy resurrection
And thy ascension, to every age.
Through it inspire thy Church,
Through it work on the world;
Bring an exhausted myriad to rest
On thy Atonement and thy costly death.
Keep our eyes on thy life,
On thy paths keep our feet,
Keep our face on the blessedness
Thou hast purchased for us
with thy precious Blood.
Waiting is thy Church above
For their brothers on the earth;
Waiting for a joyful meeting
On the day of the great Resurrection;
Waiting for their perfect end,
Body and soul in enjoyment;
Waiting to return in a procession
With Christ to the heavenly land.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|