O Arglwydd, na cherydda fi
Ym mhoethni dy ddigofus lid;
Dy rad drugaredd bellach dod
I faddeu'm pechod mawr i gyd.
O achub f'enaid mawr ei bla,
Iachâ fi â'th drugaredd gu;
Nid oes yn angau gof na gwawl,
A phwy a'th fawl
o'r priddfedd du?
Fe glyw, fe glyw fy Nuw fy arch,
Boed iddo barch
a mawl dilŷth!
Fe wrendy fry fy ngweddi 'nawr,
Boed iddo fawr ogoniant fyth.
Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831
Mesur: MH 8888 gwelir: O Arglwydd na cherydda fi [MS] |
O Lord, do not rebuke me
In the heat of thy irate anger;
Thy gracious mercy henceforth come
To forgive all my great sins.
Oh save my soul with its great disease,
Heal me with thy dear mercy;
There is in death no memory nor light,
And who shall praise thee
from the black earth-grave?
He hears, my God hears my demand,
Let there be to him reverence
and ceaseless praise!
He listens above to my prayer now,
Let the be to him great glory forever.
tr. 2014 Richard B Gillion
|
|