Ogoneddus Graig yr Oesoedd

Ogoneddus Graig yr Oesoedd
  Sylfaen pob
      cadernid yw;
Nid yw creigiau cryfaf natur
  Ddim yn ymyl Craig fy Nuw;
    Byth nid ofnaf
  Ond ei chael o dan fy nghraed.

Pan oedd mellt y ddeddf yn gwibio
  A'i tharanau'n rhuo'i llid,
Dianc wneuthum am fy mywyd,
  Ac i'r Graig y ffois mewn pryd;
    Cefais noddfa
  Yn ei holltau dwyfol hi.

Pryd y tawdd elfennau natur,
  Ac y dua'r haul uwch ben,
Pryd y cŵymp yr holl blanedau
  Ac y gwrida'r lleuad wen,
    Craig yr Oesoedd
  Saif yn gadarn ddydd y farn.

Hon yw'r Graig y canaf iddi
  Pan gaf delyn aur y nen,
Gorfoleddaf ar yr orsedd,
  Byth ni ddaw fy nghân i ben;
    Craig yr Oesoedd,
  Haleliwia byth am hon!
Pryd :: Pan

T Jones Humphries 1841-1934

Tôn [878747]: 1910 Llangynog (John Evans 1857-1929)

The glorious Rock of the Ages
  The foundation stone of all
      stability it is;
The strongest rocks of nature are
  Nothing beside the Rock of my God;
    Never shall I fear
  If only I have it under my feet.

When the lightning of the law was flashing
  And its thunders roaring its wrath,
Escape I did for my life,
  And to the Rock I fled in time;
    I got refuge
  In its divine clefts.

When the elements of nature melt,
  And the sun blackens overhead,
When all the planets fall
  And the white moon reddens,
    The Rock of the Ages
  Shall stand firm on the day of judgment.

This is the Rock to which I shall sing
  When I get the golden harp of the sky,
I shall be jubilant on the throne,
  Never shall my song come to an end;
    The Rock of the Ages,
  Hallelujah for this!
::

tr. 2021 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~