Och! finau'n brudd, na ddeuai'r dydd
I fyn'd yn rhydd oddiyma,
Tu hwnt i lygredd brwnt a brad,
I Ganaan, gwlad Jehofah.
'Rwyf yma o fewn i ergyd saeth,
Mewn carchar caeth yn fynych;
Pan elwyf unwaith yno i fyw
Yn nghariad Duw caf edrych.
Caf yno aros gyda'r Oen
Mewn gwledd ddiboen yn para;
Caf euraidd goron yn ddi-os,
Pwy garai aros yma?
Caf euraidd delyn yn fy llaw
Heb friw na braw i'm blino;
Caf aros fyth
mewn hyfryd hedd,
Gwych ydyw'r wledd sydd yno.
Caf fi fod fyth
uwch nefol len,
Caf fwyta o Bren y Bywyd;
Caf fod mewn lle o wleddoedd llawn,
Caf yno gyflawn wynfyd.
Eneidiau gwiw, na ro'wch eich bryd
Ar ol y gwagfyd yma;
Chwi gewch, pan eloch at eich Ner,
O'i nefol fêr eich gwala.
O gwyn ei fyd y sawl sy' a'i daith
I'r etifeddiaeth yma,
Y rhai sydd eisoes wedi cael
Rhyw gyfran hael o'i manna.
Mae chwant, O Dad, ar f'enaid i
Fod gyda Thi mewn urddas;
Amen! amen! mi ddweda'n hŷ', -
Prysura Di dy deyrnas!
William Williams 1717-91Caniadau ei Ieuengctyd [Mesur: MS 8787] |
Oh I am sad, that the day should not come
To God free from here,
Beyond filthy corruption and treachery,
To Canaan, the land of Jehovah.
I am here within an arrow shot,
In a captive prison often;
When once I go there to live
In the love of God I shall get to see.
There I shall get to stay with the Lamb
In a pain-free feast enduring;
I shall get a golden cross, without doubt,
Who would love to stay here?
I shall get a golden harp in my hand
Without wound or terror to grieve me;
I shall get to stay forever
in delightful peace,
Brilliant is the feast that is there.
I shall get to be forever
above a heavenly curtain,
I shall get to eat from the Tree of Life;
I shall get to be in a place of full feats,
I shall get there full blessedness.
Worthy souls, set not your mind
After the vain world here;
Ye shalll get, when ye go to your Master,
Satisfied by his best heavenly portion.
O blessed are those whose journey is
To this inheritance,
Those who have already had
Some share of his manna.
My soul, O Father, has a craving
To be with thee in honour;
Amen! amen! I say confidently, -
Hasten thou thy kingdom!
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|