O Ysbryd Duw, rho dy fwynhau,
Ac na foed i mi dy dristâu;
Yn dy ddyddanwch gâd im' fyw,
Yn ernes o baradwys yw.
O ddedwydd ddedwydd deulu Duw,
Yr Ysbryd eu Dyddanydd yw:
Gweinyddu cysur cryf y mae,
I lòni'r gwan mewn ing a gwae.
Dyddanwch gwir yr Ysbryd Glân
A ddeil ei rym mewn dw'r a thân;
A'i siriol ymweliadau rhad
Sy flaenbrawf hoff
o'r nefol wlad.
Roger Edwards 1811-86
[Mesur: MH 8888] gwelir: O ddedwydd ddedwydd deulu Duw |
O Spirit of God, grant to enjoy thee,
And may I not sadden thee;
In thy comfort let me live,
An earnest of paradise it is.
O happy, happy family of God,
The Spirit is their Comforter:
Ministering strong comfort he is,
To cheer the weak in anguish and woe.
The true comfort of the Holy Spirit
Shall keep its force in water and fire;
And his cheerful, free visitations
Are the dear foretaste
of the heavenly land.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|