O tyred Ysbryd Glān,
Yn fflam o ddwyfol dān
I'r oedfa hon;
Lladd bob hunanol fryd,
Dilea ōl y byd;
Dy ras yn fwy o hyd
Sancteiddio'n bron.
Gad inni beunydd fyw
Dan wlith cawodydd Duw
Yn iraidd hardd;
Dy awel dyner Di,
Wrth ddod o Galfari,
A wnelo'n bywyd ni
Fel nefol ardd.
Golomen nefol fro,
Dy bur dangnefedd rho
I'n daear drist:
Gwna, yn dy hedd dy Hun,
Yr Eglwys oll yn un;
Ac achub deulu dyn
I gariad Crist.
Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Tōn [664.6664]: Llanbeblig (alaw Gymreig) |
O come, Holy Spirit,
As a flame of divine fire
To this meeting;
Slay every selfish mindset,
Delete the mark of the world;
May thy grace more and more
Sanctify our breast.
Let us daily live
Under the dew of the beautiful, fresh
Showers of God;
May thy tender breeze,
Coming from Calvary,
Make our life
Like a heavenly garden.
Thou Dove of a heavenly region,
Thy pure tranquility give
To our sad earth:
Make, in thine own peace,
All the Church as one;
And save the family of man
For the love of Christ.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|