|
1,2,3,4,(5).
O ryfedd, ryfedd gariad rhad!
Trwy waed y groes
'rwi'n fyw;
Fy ngwaith dros byth o hyn i maes,
Fydd canmol gras fy Nuw.
O dyma ffrynd, dywedwch pwy
Sy' debyg iddo fe!
A bery'n ffyddlon i mi trwy
Bob trallod tan y ne'.
O'm ie'ngctyd buost Arglwydd da
Yn gymmorth i dy was;
Tan lawer cwmmwl tywyll du
Cynheliaist fi a'th ras.
O Arglwydd etto moes dy law
Nes delw 'i draw i'r bedd:
Trwy'r holl anialwch dyrus maith
I ben fy nhaith mewn hedd.
Pan bwy' yn angeu'n crymmu ' mhen,
Rho wên dy wyneb cu;
Doed yr angylion yno'n rhês
I'm dwyn i'th fynwes frŷ.
- - - - -
O ryfedd, ryfedd gariad rhad!
Trwy waed y groes 'rwy'n fyw;
Fy ngwaith dros byth o hyn i maes,
Fo canmol gras fy Nuw.
O dyma un, - dywedwch pwy,
Sydd debyg iddo Ef?
A bery'n ffyddlon imi trwy,
Bob trallod tan y nef?
O'm hie'nctyd buost, Arglwydd da,
Yn etifeddiaeth fras;
Dan lawer cwmmwl tywyll, du,
Cynnaliaist fi â'th râs.
O Arglwydd, eto moes dy law,
Nes deuaf draw i'r bedd;
Trwy'r holl anialwch dyrys maith,
I ben fy nhaith mewn hedd.
Pan b'wyf yn angeu'n crymu ' mhen,
Rho wên dy wyneb cu;
Doed yr angylion yno'n rhês
I'm dwyn i'th fynwes frŷ.
William Williams 1717-91
Tôn [MC 8686]: St Stephen (William Jones 1726-1800) gwelir: Iesu yw'm Ffordd i'r nefol fyd Tywysog mawr y bywyd clyw |
O wonderful, wonderful free love!
Through the blood of the cross
I am alive;
My work from now for ever on,
Shall be to extol the grace of my God.
O here is a friend, - tell ye who
Is like unto him!
Who shall stay faithful to me through
Every tribulation under heaven.
From my youth thou hast been, good Lord,
A help to thy servant;
Under many a dark black cloud
Thou didst uphold me with thy grace.
O Lord, still give thy hand
Until I come to yonder side of the grave:
Through all the troublesome, vast desert
To the end of my journey in peace.
When I am in death bowing my head,
Give the smile of thy dear face;
May the angels come there in a rank
To take me to thy bosom above.
- - - - -
O wonderful, wonderful free love!
Through the blood of the cross I am alive;
My work from now for ever on,
Shall be to extol the grace of my God.
O here is one, - tell ye who,
Is like unto him?
Who shall stay faithful to me, through
Every tribulation under heaven?
From my youth thou hast been, good Lord,
A rich inheritance;
Under many a dark, black cloud,
Thou didst uphold me with thy grace.
O Lord, still give thy hand,
Until I come to yonder side of the grave;
Through all the vast troublesome desert,
To the end of my journey in peace.
When I am in death bowing my head,
Give the smile of thy dear face;
May the angels come there as a rank
To take me to thy bosom above.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|