O ryfedd drugaredd, achubodd fy mlaen,
Pan ar y ffordd lydan
yn rhedeg tua'r tân,
Braich gras a'm cyrhaeddodd,
O ryfedd ei hyd,
Telynau gogoniant a'i molant i gyd.
Un gwael heb ymgeledd
yn gorwedd mewn gwaed,
Yn glwyfus gan bechod
o'm pen hyd fy nhraed;
Pwy byth all'sai 'nghodi
o'r pydew i'r làn,
Ond breichiau trugaredd;
mi gana'n mhob man.
Cas. o dros Ddwy Fil o Hymnau (Samuel Roberts) 1841
- - - - -
O ryfedd drugaredd, achubodd fy mla'n,
Pan ar y ffordd lydan
yn rhedeg i'r tân;
Trugaredd a'm cwrddodd, O ryfedd ei hyd,
O deuwch, rhyfeddwn drugaredd i gyd.
Dyn gwael heb ymgeledd
yn gorwedd mewn gwaed,
Yn glwyfus gan bechod
o'm pen hyd fy nhraed;
Heb neb all'sai 'nghodi
o'r pydew i'r làn,
Ond rhyfedd drugaredd
mi gana'n mhob màn.
Mae ganddo drugaredd i'r duaf ei liw,
Fe ddichon ei olchi,
un rhyfedd yw Duw!
Mae'n maddeu anwiredd,
a chamwedd, a bai,
O deuwch, derbyniwch drugaredd bob rhai.
Caniadau Y Cysegr 1855
[Mesur: 11.11.11.11] |
O wonderful mercy, that restrained me,
When on the wide road
running towards the fire,
The arm of grace reached me,
O wonderful its length,
The harps of glory they all praise it.
A base one without help
lying in blood,
Wounded by sin
from my head to my feet;
Who could ever raise me
up from the pit,
But the arms of mercy?
I shall sing in every place.
- - - - -
O wonderful mercy, that restrained me,
When on the wide road
running towards the fire;
Mercy met me, O wonderful its length,
O come ye, let us all wonder at mercy.
A base man without help
lying in blood,
Wounded by sin
from my head to my feet;
Without anyone who was able to raise me
up from the pit,
But wonderful mercy,
I shall sing in every place.
He has mercy for the blackest in colour,
He is able to wash him,
a wonderful one is God!
He is forgiving untruth,
and trespass, and fault,
O come ye, receive mercy, all of you.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|