O Iesu gobaith yr holl fyd

(Ymbil am gysuron)
O Iesu, gobaith yr holl fyd,
  Gobaith yr Indiaid draw;
Cyflawna addewid fawr dy ras,
  I'r truan maes o law.

Ti wyddost, Arglwydd, beth yw trai
  O eisieu dyfroedd pur;
A bod yr anial maith yn gras
  Heb gael cysuron gwir.

Mae temtasiynau'r ddraig yn gryf,
  A minnau d'wyf ond gwan;
'Nid oes ond dwyfol nerth y nef
  A'm deil i byth i'r lan.

Mae llid o'r dwyrain
    ac o'r de,
  Am gael fy mhen i lawr;
Tragwyddol gariad ydyw ef
  A'm dwg i'r lan ryw awr.

Un radd o haeddiant addfwyn Oen,
  Sy fwy na'm beiau o'r bron;
Ac yn ei rinwedd llawenhâf,
  Tan groesau'r ddaear hon.
William Williams 1717-91

Tôn [MC 8686]: Christ's Church (<1835)

gwelir: O edrych arnaf Arglwydd mawr

(Petition for comforts)
O Jesus, the hope of the whole world,
  The hope of distant India;
Fulfil the great promise of thy grace,
  To the wretches soon.

Thou knowest, Lord, what is lacking
  From the need of pure waters;
And that the vast desert is arid
  Without getting true comforts.

The temptations of the dragon are strong,
  An I am only weak;
There is only the divine strength of heaven
  That will hold me up forever.

There is wrath from the east
    and from the south,
  To bring my head down;
Eternal love is he
  Who will lead me up some hour.

One degree of the merit of the dear Lamb,
  Is greater than my faults completely;
And in his virtue I rejoice,
  Under the crosses of this earth.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~