O Iachawdwr pechaduriaid

          1,2,(3),4;  1,3.

O Iachawdwr pechaduriaid,
  Sydd a'r gallu yn dy law;
Rho oleuni, hwylia'm henaid,
  Dros y cefnfor garw draw;
Gad i'r wawr fod o fy wyneb,
  Rho fy enaid llesg yn rhydd,
Nes i'r haulwen ddysglaer godi,
  Tywys fi wrth y seren ddydd.

Pa fodd rhydiaf yr Iorddonen,
  Oni ddeui di dy hun,
Yno i dori grym y tònau,
  Ac i gynal eiddil un?
Dal fy mhen i'r làn yn gadarn,
  Pan fo angeu'n fawr ei rym;
Pleidia'n wrol yn ei wyneb,
  Pan na b'wyf yn gallu dim.

O ynfydrwydd, O ffolineb,
  I mi 'rioed i roi fy mryd,
Ar un pleser, ar un tegan.
  A welais etto yn y byd;
Y mae'r byd yn myned heibio,
  A'i deganan o bob rhyw,
Tan y nef ni thai ei garu,
  Wrth ddrych arall ond fy Nuw.

Mae nghyfeillion wedi myned,
  Draw yn lluoedd o fy mlaen;
Rhai fu'n myn'd trwy ddyffryn Baca,
  Gyd â mi i Salem lân:
Yn y dyffryn tywyll garw,
  Ffydd i'r làn a'u daliodd hwy;
Mae'r addewid lawn i minau,
  Pa'm yr ofna'm henaid mwy!
Rho oleuni :: Dod oleuni
fy enaid llesg :: fy enaid caeth
rhydiaf yr :: yr â i trwy'r

Caniadau y Cysegr 1866

             - - - - -
         1,(2),3;  1,2,3,4.

O Iachawdwr pechaduriaid, 
  Sydd â'r gallu yn dy law,
Rho oleuni, hwylia'm henaid,
  Tros y cefnfôr garw draw:
Gâd i'r wawr fod o fy wyneb, 
  Rho fy enaid llesg yn rhydd,
Nes i'r haulwen ddysglaer godi,
  Tywys fi wrth y seren ddydd. 

A oes neb o'm holl gyfeillion
  A ddaw'n ddiddig gyda mi,
Ac a orwedd wrth fy ochr
  Obry yn y ddaear ddu?
A yw cyfaill ddim ond hyny,
  Taflu dagrau, newid gwedd,
Pan fo'r pridd, a'r clai,
    a'r cerig,
  Arna'i'n cwympo yn y bedd?

O ynfydrwydd! O ffolineb!
  Imi roddi erioed fy mryd
Ar un tegan, ar un pleser,
  Welais etto yn y byd:
Mae y byd yn myned heibio,
  A'i deganau o bob rhyw;
Tan y nef ni thâl ei garu
  Wrthddrych arall ond fy Nuw.

Yn dy waith y mae fy mywyd,
  Yn dy waith y mae fy hedd,
Yn dy waith dymunaf aros
  Tra bwy'r ochor hyn i'r bedd;
Yn dy waith ar ôl mynd adref
  Trwy gystuddiau rif y gwlith,
Moli'r Oen fu ar Galfaria -
  Dyna waith na dderfydd byth.
1-3: William Williams 1717-91
4 : Evan Griffiths 1795-1873
             - - - - -

O Iachawdwr pechaduriaid
  Sydd a'r gallu yn Dy law,
Rho oleuni, hwylia'm henaid
  Dros y cefnfor garw draw:
Gâd i'r wawr fod o fy wneb,
  Rho fy enaid llesg yn rhydd -
Nes i'r heulwen ddisglaer godi,
  Tywys fi wrth y seren ddydd.

O! Anfeidrol rym y cariad,
  Anorchfygol ydyw'r gras;
Digyfnewid yw'r addewid,
  A bery byth o hyn i maes;
Hyn yw'm angor ar y cefnfor,
  Na chyfnedwid meddwl Duw;
Fe addawodd na chawn farw,
  Ond yng nghlwyfau'r Oen cawn fyw.
1: William Williams 1717-91
2: Dafydd William 1720-94
                - - - - -

O Iachawdwr pechaduriaid
  Sydd a'r gallu yn Dy law,
Rho oleuni, hwylia'm henaid
  Dros y cefnfor garw draw:
Gâd i'r wawr fod o fy wneb,
  Rho fy enaid llesg yn rhydd -
Nes i'r heulwen ddisglaer godi,
  Tywys fi wrth y seren ddydd.

Ac er gwaethaf grym y tonnau
  Sydd yn curo o bob tu,
Dof trwy'r stormydd,
    dof trwy'r gwyntoedd
  Rywbryd i'r Baradwys fry:
Gair fy Nuw sy'n
    drech na'r moroedd,
  Gair fy Nuw sy'n
      drech na'r don;
Ac mi anturiaf oll a feddwyf
  Fythol i'r addewid hon.
William Williams 1717-91
                - - - - -

O Iachawdwr pechaduriaid,
 Sydd a'r gallu yn dy law;
Rho oleuni hwylia'm henaid,
  Dros y cefnfor garw draw:
Gad i'r wawr fod o fy wyneb,
  Rho fy enaid llesg yn rhydd,
Nes i'r haulwen ddysglaer godi,
  Tywys fi wrth y seren ddydd.

Bellach minau'n ëon deuaf,
  Mi ymgrymaf wrth dy draed,
Ac mi blediaf am drysorau,
  Wedi eu haddo oll yn rhad;
Nid oes neb o dan yr wybr,
  Mewn mwy diffyg, mewn mwy trai,
Tlawd o'r cyfan, ond yn benaf,
  Tlawd wyf Arglwydd
      o'th fwynhau.

O foreu-ddydd y briodas,
  Gwyn fyd welai'r ddedwydd awr;
Gwel'd wyneb-pryd y priod-fab,
  Clywed llais y delyn fawr:
Awn tàn ganu tros y moroedd,
  Meithion tua'r hyfryd wlad,
Ac anghofiwn hen gariadau,
  Gwag bleserau tŷ fy nhad.

Blinais ar afonydd Babel,
  Nid oes yno ond wylo i gyd,
Llais telynau hyfryd Sïon,
  Sydd yn gyson dynu 'mryd:
Tyr'd a ni yn dorf gariadus,
  O gaethiwed Babel fawr,
Ac nes bo'm ar fynydd Sïon,
  Na'd ni osod clun i lawr.
wrth y seren :: â'r seren

William Williams 1717-91
(Hymnau a Psalmau 1840)

Tonau [8787D]:
Alexander (John Roberts 1806-79)
Bavaria (F Mendelssohn-Bartholdy)
Diniweidrwydd (alaw Gymreig)
Dismission (W F Wade c.1711-86)
Eifionydd (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Henryd (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Tal-y-Bont (<1876)
Tantum Ergo (Vincent Novello 1781-1861)

gwelir:
  Blinais ar afonydd Babel
  Cofia f'enaid cyn it' dreulio
  Dyma'r byd y mae taranau
  Dyn dyeithr ydwyf yma
  Ffarwel i chwi gynt a gerais
  Mae nghyfeillion wedi myned
  Nid oes neb o'm hen gyfeillion
  O am nerth i dreulio 'nyddiau
  O Anfeidrol rym y cariad
  O ynfydrwydd O ffolineb
  Pa fodd yr âf i trwy'r Iorddonen?
  Pam y caiff bwystfilod rheibus?
  Yn dy waith y mae fy mywyd
  Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau



O Saviour of sinners,
  Who hast might in thy hand;
Give light, cause my soul to sail,
  Across yonder rough ocean;
Let the dawn come from thy face,
  Set my frail soul free,
Until the bright sunshine rises,
  Lead me by the day-star.

How shall I ford the Jordan,
  Unless thou thyself come,
Here to break the waves' force,
  And to support a feeble one?
Keep my head up firmly,
  Whenever death comes with great force;
Plead bravely in its face,
  When I can do nothing.

O madness, O folly,
  For me ever to set my affection
On any trinket, on any pleasure,
  I have seen yet in the world:
The world is passing,
  And its trinkets of every kind;
Under heaven is not worth loving
  Another object but my God.

Friends have gone,
  Yonder in multitudes before me;
Some have gone through the vale of Baca,
  Together with me to holy Salem:
In the rough, dark vale,
  Faith has kept them up;
The abundant promise is to me,
  Why will my soul fear any more!
::
::
shall I ford the :: shall I go through the

 

                   - - - - -


O Saviour of sinners,
  Who hast might in thy hand;
Give light, cause my soul to sail,
  Across yonder rough ocean;
Let the dawn come from thy face,
  Set my frail soul free,
Until the bright sunshine rises,
  Lead me by the day-star. 

Is there none of my friends
  Who will come placidly with me,
And lie by my side
  Beneath in the black earth?
And is a friend only this,
  Shedding tears, altering countenance,
When the earth, and the clay,
    and the stone are
  Upon me falling in the grave?

O madness! O folly!
  For me to set my affection
On any trinket, on any pleasure,
  I have seen yet in the world:
The world is passing,
  And its trinkets of every kind;
Under heaven is not worth loving
  Another object but my God.

In thy work is my life,
  In thy work is my peace,
In thy work I wish to stay
  While I am on this side of the grave;
In thy work after going home
  Through afflictions numerous as dew,
Praising the Lamb who was on Calvary -
  That is the work that will never end.
 
 
                   - - - - -

O Saviour of sinners,
  Who hast might in thy hand;
Give light, cause my soul to sail,
  Across yonder rough ocean;
Let the dawn come from thy face,
  Set my frail soul free -
Until the bright sunshine rises,
  Lead me by the day-star. 

O immeasurable force of the love,
  Unconquerable is the grace;
Immutable is the promise,
  Which endures forever from now one;
This is my anchor on the high sea,
  The never-changing mind of God;
He promised I would never die,
  In the wounds of the Lamb I may live.
 
 
                   - - - - -

O Saviour of sinners,
  Who hast might in thy hand;
Give light, cause my soul to sail,
  Across yonder rough ocean;
Let the dawn come from thy face,
  Set my frail soul free -
Until the bright sunshine rises,
  Lead me by the day-star.

And despite the force of the waves
  Which are beating me from every side,
I will come through the storms,
    I will come through the winds
  Sometime to the Paradise above:
The word of my God
    is mightier than the seas,
  The word of my God
      is mightier than the wave;
And I will venture all I posses
  Forever on this promise.
 
                - - - - -

O Saviour of sinners,
  Who hast might in thy hand;
Give light, cause my soul to sail,
  Across yonder rough ocean;
Let the dawn be from my face,
  Set my frail soul free -
Until the bright sunshine rises,
  Lead me by the day-star.

From now on in fear I shall come,
  I shall bow at thy feet,
And I shall plead for treasures,
  Promised all freely;
There is no-one beneath the sky,
  In more deficiency, in more waning,
Poor in every way, but chiefly,
  Poor am I, Lord,
      in terms of enjoying thee.

Oh morning of the marriage,
  Blessed would be to see the happy hour;
To see the countenance of the Bridegroom,
  To hear the voice of the great harp:
I would go while singing across the vast
  Seas towards the delightful land,
And I would forget old loves,
  Empty pleasures of my father's house.

I have wearied of Babylon's rivers,
  There is nothing there but all weeping:
The voice of Zion's lovely harps
  Are constantly drawing my attention:
Bring us as a loving multitude
  From the captivity of great Babylon,
And until we are on mount Zion,
  Do not let us sit down.
::

tr. 2010,11 Richard B Gillion



Great Redeemer, Friend of sinners,
  Thou hast mighty power to save
Grant me light, and still conduct me
  Over each tempestuous wave;
May my soul with sacred transport
  View the dawn while yet afar,
And until the sun arises,
  Lead me by the morning star.










Oh, what madness, oh, what folly,
 That my thoughts should go astray
After toys and empty pleasures,
  Pleasures only for a day;
This vain world, with all its trifles,
  Very soon will be no more,
There's no object worth admiring,
  But the God whom I adore.
tr. Hymns & Tunes in Welsh & English (E T Griffith) 1884

Tôn [8787D]: Eifionydd (J Ambrose Lloyd 1815-74)
























Are there none of my companions,
  Will from life attend me forth,
Or will fondly watch beside me
  In the cold and silent earth?
All thy boasting this, O Friendship!
  Shedding tears and heaving sighs,
When my need of thee
    is greatest,
  When thy doting votary dies?

O the weakness, O the folly,
  That my heart did e'er entwine
Round a joy, or hope, or promise,
  Vain, unstable World, of thine!
Thou with all thy proffered treasure
  Shalt ere long from me remove:-
Turn, fond heart, with holy rapture,
  Unto God thy trust and love.
tr. Joseph Morris
Favourite Welsh Hymns 1854

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~