O! gyfoethog Dduw rhaglunieth,
O! drugarog Geidwad dyn,
Y mae hanfod pob bodolaeth
Wrth dy enw fyth ynglŷn;
Ti dy Hunan
All ddigoni gwaith dy law.
Holl anghenion creadigaeth
Lenwir yn dy wên erioed;
Bywyd yn ei lawn amrywiaeth
Dyf yn ôl dy ddwyfol droed;
Mae dy lwybrau
Yn diferu gan fwynhad.
Pob creadur, am ddiddanwch,
Atat ti cyfeiria'i lef,
O fwystfilod yr anialwch
Hyd yr angel yn y nef;
Ni bu prinder
Ar dy lwybrau di erioed.
Mae cyflawnder dy ddaioni
Yn addurno'r bryniau pell;
Nefol addurn yn cysgodi
Swyn a bywyd gwlad sydd well;
Mae dy lwybrau
Yn ymgolli yn y nef.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
Tôn [878747]: |
O wealthy God of providence!
O merciful Saviour of man!
The essence of all existence is
Belonging to thy name forever;
Thou thyself
Canst satisfy the work of thy hand.
All the needs of creation
Are ever fulfilled in thy smile;
Life in all its variety
Shall grow in thy divine footprint;
Thy paths are
Dripping with enjoyment.
Every creature, for comfort,
Unto thee directs is cry,
From the beasts of the desert
To the angel in heaven;
There is no lack
Ever on thy paths.
The fullness of thy goodness is
Adorning the distant hills;
Heavenly adornment shadowing
The charm and life of a better land;
Thy paths are
Losing themselves in heaven.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|