O dyro im, fy nefol Dad,
Ddiymod brawf i'm sancteiddhad;
Er mwyn dy Fab, O! clyw fy llef,
Cans unwedd yw â'i weddi Ef.
Hiraethu'r wyf am gael o hyd
Dy gariad Di yn llond fy mryd;
Fel caffwyf y fendigaid fraint
Sy'n eiddo fyth i
deulu'r saint.
O! una Di fy nghalon i
I ofni beunydd d'enw Di;
A thywys fi yn ffordd y gân
Sy'n gynnyrch hedd y galon lân.
Rho imi sail i ganmol gwaith
Dy ras o'm mewn
tra pery 'nhaith;
A'm digon byth fydd
bod â'm llun
Yn berffaith lân fel Ti dy Hun.
E R Davies, Pontarddulais, 1886-1951.
Tôn [MH 8888]: Arizona |
O give me, my heavenly Father,
Unconditional proof of my sanctification;
For thy Son's sake, O hear my cry!
Since it agrees with his own prayer.
Longing I am always to get
My mind full of thy love;
Thus I shall have the blessed privilege
That belongs forever to
the family of the saints.
O unite thou my heart
Daily to fear thy name;
And lead me in the way of song
That produces the peace of a clean heart.
Give me a basis to extol the work
Of thy grace within me
while my journey continues;
And sufficient for me forever shall be
having my appearance
Perfectly holy like thee thyself.
tr. 2022 Richard B Gillion
|
|