O Dduw, mor rad yw'th ddoniau maith!
Mor fawr dy waith a rhyfedd!
Trwy'r flwyddyn gwneist
in' dda bob pryd,
O'i dechre hyd ei diwedd.
'Rŷm heddyw ger dy fron fel hyn
Yn dechreu blwyddyn newydd;
Rho ras a nerth
i fyw trwy hon
Yn ffyddlon ac yn ufydd.
Boed d'achos di yn llwyddo'n llon
Y flwyddyn hon trwy'r gwledydd;
Cyfrifwn hyn yn ddedwydd dro,
A blwyddyn o lawenydd.
Damweiniau'r flwyddyn hon, O Dduw,
Par'tô ni i'w cyfarfod;
At waith ein dydd, a'n diwedd mawr,
Gwna ni bob awr yn barod.
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844
Tôn [MS 8787]: Beccles (hen alaw Ellmynig) |
O God, how gracious are thy vast gifts!
How great thy work and wonder!
Throughout the year thou did do
good for us on every occasion,
From its beginning until its end.
Today we are before thee thus
Beginning a new year;
Give grace and strength
to live through this
Faithfully and obediently.
May thy cause be succeeding cheerfully
This year throughout the lands;
Let us count this a happy turn,
And a year of joy.
The accidents of thy year, O God,
Prepare us to meet them;
To the work of our day, and our great end,
Make us every hour ready.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|