O Dduw a wrendi weddi'n rhwydd
Er bod fy meiau oll i'th wydd:
A golwg dig na chenfydd hwy
Ond tyn hwynt o'th
gof-lyfr mwy.
Dod ynof natur būr trwy ras
Fel y b'o pechod gen'i'n gās:
Oddi wrthyf d'Yspryd Glān na thyn
Na llewyrch gwŷch
dy wyneb gwyn.
Er im' dristhau dy Yspryd da
Ei help a'i gysur caniahda;
Gad im' nesau o'th flaen o Dad
I ddadlu haeddiant dy Fab rhād.
Rho i mi deimlo nefol rin
Y gwaed a gollwyd ar y bryn;
Rhyw fflam o gariad ynof dod,
A than dy aden gad i'm bod.
O ysprydola 'nhafod glān
A'th iachawdwriaeth fydd fy nghān:
A'm henaid oll rydd
fawl i'm Duw
Fy nerth i a'm cyfiawnder yw.
John Hughes 1776-1843Diferion y Cyssegr 1802 [Mesur: MH 8888] |
O God who hearest prayer readily
Although all my faults are before thee:
With an irate look do not find them
But remove them from thy
record-book evermore.
Put in me a pure nature through grace
That sin may be detestable to me:
From me do not take thy Holy Spirit
Nor the brilliant gleam
of thy bright face.
Although I sadden thy good Spirit
His help and his comfort grant;
Let me draw near before thee O Father
To plead the merit of thy gracious Son.
Grant me to feel the heavenly virtue
Of the blood that was shed on the hill;
Some flame of love in me put,
And under thy wings let me be.
O inspire my holy tongue
And thy salvation shall be my song:
And all my soul shall give
praise to my God
My strength and my righteousness he is.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|